George North
Mae prif feddyg tîm rygbi wedi disgrifio cyfergyd fel y prif beth sy’n rhaid i’r gamp i fynd i’r afael ag o.

Mae rygbi’r undeb wedi gweld nifer o achosion o gyfergydion yn ddiweddar, gan gynnwys  asgellwr Cymru a Northampton, George North.

Mae George North ar hyn o bryd ar gyfnod gorffwys ar ôl dioddef ei drydedd gyfergyd i’w glwb eleni yn ystod buddugoliaeth Northampton dros Wasps 18 diwrnod yn ôl.

Mae’r chwaraewr 23 mlwydd oed hefyd wedi dioddef cyfergydion tra’n chwarae i Gymru yn erbyn pencampwyr y byd, Seland Newydd, fis Tachwedd diwethaf ac yna ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ym mis Chwefror.

Mae cefnwr Cymru Leigh Halfpenny, Johnny Sexton o Iwerddon a Mike Brown o Loegr hefyd wedi dioddef o gyfergydion y tymor hwn.

‘Angen sylw’

Fodd bynnag, nid yw rheolwr meddygol tîm rygbi cenedlaethol Cymru, Prav Mathema, yn credu y dylai chwaraewyr wisgo gwarchodwyr pen yn orfodol, fel mae rhai wedi galw amdano.

Meddai Prav Mathema: “Mae cyfergyd yn hynod ddifrifol, a dyna’r un peth yn ein camp sydd angen sylw pob un o’r cyrff llywodraethu.

“Os bydd rhywun yn cael cyfergyd, neu rydym yn amau ei fod yn gyfergyd, does dim amheuaeth bod y person hwnnw yn dod oddi ar y cae.

“Ond mae’n bwysig nodi nad yw pob canlyniad o ergyd i’r pen yn gyfergyd.

“Dydyn ni ddim yn credu y byddai’n ddefnyddiol gwneud gwisgo gwarchodwyr pen yn orfodol. Mae gwarchodwyr pen yno i ddelio â rhwygiadau. Nid oes tystiolaeth i ddangos eu bod yn lleihau cyfergydion.”