Southend 2–0 Casnewydd

Mae gobeithion Casnewydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran yn pylu wedi iddynt golli oddi cartref yn Roots Hall nos Fawrth.

Llwyddodd Southend i sicrhau eu lle hwy yn y saith uchaf gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn y Cymry, sydd bellach yn nawfed gyda dim ond tair gêm ar ôl.

Roedd angen buddugoliaeth ar Gasnewydd mewn gwirionedd ond byddai gêm gyfartal wedi gwneud y tro yn erbyn tîm sydd heb ildio gôl ers pum gêm.

Bu bron i’r Alltudion gadw llechen lân am hanner cyfan, ond peniodd Cian Bolger y tîm cartref ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf.

Ychwanegodd Stephen McLaughlin ail yn gynnar yn yr ail gyfnod ac roedd gan Gasnewydd fynydd i’w ddringo.

Daeth David Tutonda ac Aaron O’Connor yn agos iddynt ond taro’r pren oedd hanes y ddau wrth i Southend ddal eu gafael ar y pwyntiau i gyd.

Mae Casnewydd bellach yn nawfed, ddau bwynt o’r saith uchaf holl bywsig gyda dim ond tair gêm ar ôl. Daw’r gyntaf o’r rheiny ar Rodney Parade yn erbyn Dagenham a Redbridge brynhawn Sadwrn.
.
Southend
Tîm:
Bentley, White (Binnom-Williams 79′), Bolger, Barrett, Coker, Atkinson (Leonard 73′), Deegan, Timlin, McLaughlin (Worrall 73′), Pigott, Cassidy
Goliau: Bolger 45’, McLaughlin 51’
.
Casnewydd
Tîm
: Day, Jackson, Yakubu (Feely 61′), Jones, Sandell, Storey, Porter (Tutonda 55′), Chapman, Byrne, O’Connor, Jeffers (Zebroski 58′)
.
Torf: 5,480