Dreigiau 25–22 Leinster

Cafwyd perfformiad gwych gan y Dreigiau wrth iddynt drechu Leinster ar Rodney Parade yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Roedd Leinster bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner ond cafwyd diweddglo gwych gan y Dreigiau wrth iddynt, nid yn unig ennill y gêm, ond cipio pwynt bonws hefyd wrth sgorio pedwar cais.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Dreigiau’n addawol iawn gyda chic gosb gynnar i Jason Tovey wedi pedwar munud.

Y tîm cartref sgoriodd gais cyntaf y gêm hefyd a hynny wedi deg munud pan diriodd y bachwr, T. Rhys Thomas, yn dilyn sgarmes symudol daclus o lein bump.

Parodd yr wyth pwynt o fantais tan hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan lwyddodd Jimmy Gopperth gyda chic gosb i’r Gwyddelod.

Leinster oedd y tîm gorau wedi hynny ac fe dalodd y pwysau ar ei ganfed yn y diwedd gyda dau gais yn nau funud olaf yr hanner.

Daeth y cyntaf i Ben Te’o wrth i’r canolwr dorri trwy’r amddiffyn yn dilyn cyfnod hir o bwyso, a’r ail i Gopperth gyda rhediad unigol da o’r llinell ddeg medr, 8-15 y sgôr ar hanner amser.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda Leinster yn rheoli a Te’o yn beryglus.

Croesodd y canolwr am ei ail gais ef a thrydydd ei dîm ddeg munud wedi’r egwyl, yn torri trwy amddiffyn y Dreigiau’n rhy hawdd eto.

Roedd 14 pwynt rhwng y ddau dîm wedi hynny ond wnaeth y Dreigiau ddim rhoi’r ffidl yn y to.

Croesodd y canolwr, Jack Dixon, am gais toc cyn yr awr wedi i’r blaenwyr osod sylfaen da iddo mewn lein bump arall.

Caeodd trosiad Tovey y bwlch i saith pwynt a gyda Te’o yn cael ei anfon i’r gell gallio wedi tacl beryglus roedd y Cymry’n synhwyro cyfle.

Deuddeg munud oedd i fynd pan diriodd yr eilydd flaenasgellwr, James Benjamin, drydydd cais y Dreigiau wedi i Taulupe Faletau daro cic Eoin Reddan i lawr. Ond methodd Tovey y trosiad cymharol hawdd felly roedd ei dîm yn parhau ddau bwynt ar ei hôl hi.

Wnaeth y Dreigiau ddim digaloni ac roeddynt ar y blaen yn fuan wedyn wrth i Benjamin groesi eto gyda saith munud i fynd yn dilyn bylchiad gwych Faletau.

25-22 oeddy sgôr wedi hynny a daliodd y Dreigiau eu gafael i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy.

Mae’r canlyniad yn eu cadw’n nawfed yn nhabl y Pro12 ond bydd eu golygon nawr yn troi ar Gwpan Her Ewrop a’u gêm gynderfynol yng Nghaeredin nos Wener nesaf.

.
Dreigiau
Ceisiau: T. Rhys Thomas 11’, Jack Dixon 59’, James Benjamin 69’, 73’
Trosiad: Jason Tovey 60’
Cic Gosb: Jason Tovey 4’
.
Leinster
Ceisiau:
Ben Te’o 38’, 50’, Jimmy Gopperth 40’
Trosiadau: Jimmy Gopperth 40, 51’
Cic Gosb: Jimmy Gopperth 19’
Cerdyn Melyn: Ben Te’o 64’