Munster 33–16 Gleision

Roedd Munster rhy gryf i’r Gleision ar Barc Musgrave nos Sadwrn wrth i’r Gwyddelod ennill yn gyfforddus yn y Guinness Pro12.

Roedd hi’n gyfartal ar yr egwyl ond aeth y tîm cartref â’r gêm o afael y Gleision gyda thri chais yn yr ail hanner.

Doedd dim byd yn gwahanu’r dau dîm wedi deugain munud yn dilyn tair cic gosb yr un o draed Rhys Patchell a JJ Hanrahan.

Newidiodd pethau yn yr ail gyfnod serch hynny wrth i gais yr un gan y canolwr, Denis Hurley, a’r wythwr, Jack O’Donoghue, sefydlu mantais iach i’r Gwyddelod.

Rhoddodd cais Josh Navidi lygedyn o obaith i’r Gleision gyda deg munud i fynd ond Munster a gafodd y gair olaf gyda chais hwyr Ronan O’Mahony, 33-16 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn y nawfed safle ond yn codi Muntser dros y Gweilch i frig y Pro12.
.
Munster
Ceisiau:
Denis Hurley 47’, Jack O’Donoghue 59’, Ronan O’Mahony 80’
Trosiadau: JJ Hanrahan 48’, 60’, 80’
Ciciau Cosb: JJ Hanrahan 10’, 34’, 38’, 76’
.
Gleision
Cais:
Josh Navidi 70’
Trosiad: Rhys Patchell 70’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 13’, 17’, 30’