Fe gipiodd y Gweilch bwynt bonws wrht iddyn nhw ddechrau’u tymor yn y Pro12 gyda buddugoliaeth gyfforddus o 44-13 dros Treviso.

Croesodd Nicky Smith, Rhys Webb, Jeff Hassler, Scott Baldwin a Hanno Dirksen i gyd am geisiau i’r tîm cartref yn Stadiwm Liberty, gyda Dan Biggar yn cicio 17 pwynt.

Roedd y Gweilch 37-6 ar y blaen cyn i Treviso gau’r bwlch ychydig gyda chais gan Marco Fuser, ond Dirksen gafodd y gair olaf wrth dirio yn y gornel yn y munud olaf.

Roedd yr asgellwr Eli Walker a’r mewnwr Rhys Webb nôl yn nhîm y Gweilch ar ôl anafiadau, gyda’r canolwr Andrew Bishop yn chwarae dros y rhanbarth am y 200fed tro, a Dan Evans, Josh Matavesi a Rynier Bernardo yn gwneud hynny am y tro cyntaf.