Stadiwm Cenedlaethol Andorra cyn y gwaith adnewyddu diweddar (llun: Dilema)
Prin y bydd Cymru’n profi cefnogaeth mor amlwg yn unrhyw un o’u gemau eraill oddi cartref yn eu hymyrch nesaf, wrth iddyn nhw baratoi i herio Andorra nos Fawrth yng ngêm agoriadol grŵp rhagbrofol Ewro 2016.

Oherwydd mae disgwyl i tua 1,200 o gefnogwyr o Gymru deithio i’r wlad fechan sydd rhwng Ffrainc a Sbaen – a chyda stadiwm sydd ond yn dal rhyw 4,000, fe fydd digon o sŵn gan gefnogwyr y crysau coch yno.

I’r cefnogwyr hynny mae’n ddechrau taith fydd yn mynd â nhw i Wlad Belg, Israel, Cyprus a Bosnia-Herzegovina – gan obeithio y bydd y siwrne’n gorffen yn Ffrainc mewn dwy flynedd ar gyfer y twrnament terfynol.

Ac mae’r paratoadau wedi’u cadarnhau bellach, ar ôl yr amheuon a gododd yr wythnos diwethaf ynglŷn â lleoliad y gêm yn dilyn archwiliad o gae newydd Andorra.

Petai’r gêm wedi gorfod symud i rywle yn Sbaen ar y funud olaf, fe fyddai wedi bod yn gur pen anferth i Sion England o Aberystwyth, un o’r cefnogwyr fydd yn hedfan i Toulouse.

“Roedd panics gyda ni dros y penwythnos i gyd, roedden ni gyd yn poeni,” cyfaddefodd Sion England, fydd yn mynd i’w bymthegfed gêm oddi cartref ers dechrau dilyn Cymru yn 2002.

“Ond pan nes i weld ar Twitter fod y gêm yn mynd i fod yn Andorra ro’n i’n medru ymlacio wedyn ac edrych ’mlaen at y penwythnos.”

Mwynhau’r trip

I Alun Bowen o Lanfihangel-ar-Arth, fydd ymysg y cefnogwyr niferus fydd aros yn Barcelona a theithio i’r gêm, mae’n gyfle i weld y ddinas Gatalanaidd yn ogystal â’r wlad fydd yn herio Cymru.

Ac mae hefyd yn gobeithio bod yno ar gyfer dechrau ymgyrch gofiadwy.

“Hwn yw’r dechre felly os oes rhywbeth yn dod o’r ymgyrch fe liciwn i ddweud mod i wedi bod yna o’r dechre,” meddai Alun Bowen.

“Ar yr un pryd fi wastad wedi ishe mynd i Barcelona, ac mae Andorra i fod yn wlad eitha’ prydferth felly bydd e’n neis dweud eich bod chi wedi bod yna.”

Mae’r ddau gefnogwr yn ffyddiog o fuddugoliaeth yn erbyn Andorra, tîm gwanaf y grŵp yn ôl y detholiadau a thîm sydd wedi colli pob un o’u 44 gêm gystadleuol ddiwethaf.

“Dwi’n meddwl wnawn ni ennill yn weddol hawdd yn erbyn Andorra,” meddai Sion England. “Os na ‘da ni’n ennill, ‘da ni ddim haeddu mynd i ffeinals yr Ewros!”

“Fi’n hyderus bydd Cymru’n ennill o dair neu bedair gôl,” ychwanegodd Alun Bowen. “Yn enwedig gan fod y prif chwaraewyr dal yn y garfan, felly dwi’n disgwyl perfformiad da a digon o gôls i adeiladu bach o hyder cyn gemau Bosnia a Cyprus [ym mis Hydref].”

Anghytuno ar gyrraedd Ewro 2016

Ond mae’r ddau yn anghytuno pan mae’n dod i’r cwestiwn mawr – ai hon yw’r ymgyrch fydd yn gweld Cymru’n cyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 1958?

“O na, dwi ddim yn hyderus am y grŵp yn gyffredinol!” cyfaddefodd Sion England.

“Na, Cymru yw e de, ‘da ni jyst ddim yn gwneud y pethe yma ydyn ni!”

Mae Alun Bowen yn fwy hyderus, ac yn teimlo y bydd Cymru’n cyrraedd o leiaf y gemau ail gyfle.

“Fi’n ffyddiog ein bod ni’n gallu o leiaf cael trydydd yn y grŵp a gobeithio gwthio am yr ail safle yna,” meddai.

“Dwi’n ffyddiog fyddwn ni yn Ffrainc mewn dwy flynedd – mae’r amser wedi dod i’r golden generation yma.”