Mi fydd yr asgellwr Eli Walker a’r canolwr Andrew Bishop yn dychwelyd i’r Gweilch ar ôl i’w hanafiadau wella. Methodd Walker ennill ei gap cyntaf i Gymru oherwydd iddo anafu ei linyn y gâr wrth ymarfer gyda’r garfan. Fe wnaeth Bishop golli chwe mis oherwydd anaf i’w gefn cyn dychwelyd i chwarae yn nwy gêm ola’r tymor i’r Gweilch.
‘‘Mae’r ddau wedi bod yn ymarfer yn dda, ac yn rhan o’r garfan sy’n paratoi ar gyfer y tymor newydd,’’ meddai Steve Tandy, rheolwr y Gweilch.
Mae Bishop wedi ennill 16 cap i Gymru ac ar fin dechrau ei 11fed tymor i’r Gweilch. Mae Walker wedi chwarae 37 gêm i’r Gweilch gan sgorio 50 o bwyntiau i’r rhanbarth.
Carfan y Gweilch
Olwyr – Dan Evans, Tom Grabham, Jonathan Spratt (Capten), Josh Matavesi, Hanno Dirksen, Sam Davies a Tom Habberfield.
Blaenwyr – Marc Thomas, Sam Parry, Dmitri Arhip, Lloyd Peers, Rynier Bernardo, James King, Sam Lewis a Joe Bearman.
Eilyddion – Matthew Dwyer, Duncan Jones, Cai Griffiths, Adam Beard, Olly Cracknell, Lloyd Evans, Morgan Allen, Martin Roberts, Andrew Bishop a Richard Fussell.