Bafetimbi Gomis
Mae ymosodwr newydd Abertawe Bafetimbi Gomis wedi mynnu y gall y bartneriaeth rhyngddo ef a Wilfried Bony ddwyn ffrwyth yn ymosodol i Abertawe eleni.

Bydd yr Elyrch yn herio Manchester United yn Old Trafford brynhawn yfory yng ngêm agoriadol yr Uwch Gynghrair, ac mae’r rheolwr Garry Monk yn wynebu penderfyniad ynglŷn â’i ddewisiadau ymosodol.

Dechreuodd Gomis a Bony gyda’i gilydd yng ngêm gyfeillgar olaf Abertawe yn erbyn Villarreal yr wythnos ddiwethaf, er bod Monk yn ffafrio system o chwarae gydag ond un ymosodwr y tymor diwethaf.

Ac mae’r Ffrancwr a gyrhaeddodd Stadiwm Liberty o Lyon dros yr haf yn credu fod ganddo ef a Bony ddyfodol gyda’i gilydd yn y tîm.

“Rydym yn siwtio’n gilydd, ond mae dal rhaid i ni weithio’n galed oherwydd ein bod ni’n dal i ddysgu i chwarae gyda’n gilydd,” meddai Gomis wrth wefan y clwb.

“Doeddwn i ddim yn nabod Wilfried cyn dod yma, ond rydym yn siarad yr un iaith sydd wedi fy helpu i setlo.

“Mae’n hael ac yn fy helpu oddi ar y cae. Os oes rhywbeth nad ydw i’n ddeall, mae’n esbonio hynny i mi.

“Roeddwn i’n ymwybodol o’i allu pêl-droed, ond rwyf wedi darganfod ei fod yn ddyn â’i galon yn y lle iawn, felly dyw e ddim yn fy synnu fod pobl Abertawe wrth eu bodd ag ef.”

Herio Van Gaal

Allai Gomis a’r tîm ddim bod wedi gofyn am gêm llawer caletach i ddechrau’u tymor, wrth iddyn nhw baratoi i herio Man United o dan arweiniad eu rheolwr newydd Louis Van Gaal.

Mae disgwyl y bydd gan Monk garfan lawn i ddewis ohoni heblaw am y chwaraewr canol cae Leon Britton, sydd wedi anafu ei ben-glin.

Yn ogystal â Gomis, gallai rhai o wynebau newydd eraill Abertawe fel Gylfi Sigurdsson a Jefferson Montero chwarae am y tro cyntaf dros yr Elyrch ers arwyddo yn yr haf.

Mae Monk hefyd wedi cadarnhau fod y clwb yn agos at arwyddo’r amddiffynnwr Federico Fernandez o Napoli, ond mae’n annhebygol y bydd hynny’n digwydd cyn gêm yfory.

Yn y cyfamser, ni fydd Luke Shaw na Michael Carrick ar gael i Man U, sydd hefyd yn aros i weld a fydd Robin Van Persie, Jonny Evans ac Antonio Valencia yn ffit i chwarae.

Y gêm yn fyw ar BT Sport am 12.45 b’nawn yfory.