Mae cyn-reolwr Caerdydd Malky Mackay yn y ffrâm i lenwi esgidiau’r Cymro roddodd y gorau i reoli Crystal Palace neithiwr.

Mae disgwyl i’r clwb gyhoeddi datganiad heddiw yn egluro’n union pam fod Tony Pulis wedi gadael y clwb, a hynny ddeuddydd yn unig cyn ddechrau’r tymor a’u gêm gyntaf oddi cartref yn Arsenal.

Roedd Tony Pulis wedi bod yn trafod prynu chwaraewyr newydd gyda cyd-Gadeirydd y clwb, Steve Parish, ddoe.

Yn ôl adroddiadau roedd anghydweld ynghylch cryfhau carfan Palace.

Mae’r modd iddo adael y clwb yn sioc anferth o gofio iddo ennill gwobr Rheolwr Gorau’r Uwch Gynghrair ym mis Mai, wedi iddo godi’r clwb o waelod y tabl a sicrhau eu bod yn cadw eu lle yn y gynghrair.

Malky at Moody?

Mae dyfalu y gallai Palace droi at Malky Mackay, y Sgotyn gafodd ei hel o Gaerdydd y tymor diwethaf er bod y gwybodusion yn unfrydol ei fod yn gwneud gwaith rhagorol.

Cyn y fwyell, bu Mackay yn cydweithio gydag Iain Moody yn y brif ddinas. Cafodd Moody ei ddiswyddo gan Gaerdydd ac mae bellach yn Gyfarwyddwr Chwaraeon Crystal Palace, a rhai’n amau y bydd yn ceisio denu Mackay i’r clwb yn Llundain.

Hefyd yn y mics i gymryd yr awenau yn Palace mae Neil Lennon gynt o Celtic, David Moyes Man U gynt a’r Saeson Glenn Hoddle a Tim Sherwood.