Ar ddiwedd diwrnod rhwystredig o law, fe fydd Morgannwg yn difaru’r ffaith fod y tywydd wedi gwella, wrth iddyn nhw golli o saith wiced yng nghystadleuaeth 50 pelawd y Royal London yn erbyn Swydd Warwick yn San Helen.

Arweiniodd Varun Chopra yr ymwelwyr i’r fuddugoliaeth wrth iddo daro 39 oddi ar 26 o belenni ond y gwir amdani yw fod bowlio llac a maesu esgeulus wedi costio’n ddrud i Forgannwg.

Llwyddodd y Cymry i sgorio 225-7 oddi ar 39 o belawdau rhwng cawodydd y bore ma, ac roedd hi’n anochel y byddai Swydd Warwick yn cwrso nod wedi’i addasu yn ystod y prynhawn.

Batiad Morgannwg

Dechreuodd Morgannwg yn gadwrn wrth i Jacques Rudolph daro pedwar oddi ar Rikki Clarke i gychwyn y clatsio.

Tarodd Jim Allenby bedwar oddi ar Oliver Hannon-Dalby yn yr ail belawd, cyn i Clarke ildio dau bedwar yn y drydedd belawd.

Ond buan y daeth y glaw ac fe adawodd y chwaraewyr y cae yn ystod yr wythfed belawd, ac roedd yr ornest wedi’i chwtogi i 49 pelawd yr un.

Gorffennodd Morgannwg y cyfnod clatsio ar 42-0 pan ail-ddechreuodd y chwarae, wedi i Allenby daro dau bedwar oddi ar Hannon-Dalby.

Parhaodd Allenby i glatsio Clarke ond arafodd y sgorio pan gafodd Recordo Gordon ei gyflwyno i’r ymosod, ac fe gipiodd wiced Allenby gyda’r cyfanswm yn 47-1.

Collodd Gareth Rees ei wiced gyda’r cyfanswm yn 60-2, wedi’i ddal oddi ar fowlio Clarke.

Daeth y chwaraewyr oddi ar y cae unwaith eto wedi i Forgannwg gyrraedd 69-2 yn y ddeunawfed belawd ac fe gollwyd deg o belawdau unwaith eto.

Gafaelodd Murray Goodwin yn y bowlio wrth daro Gordon am bedwar cyn i Rudolph daro pedwar arall oddi ar Richard Jones ond daeth y glaw unwaith eto wrth i Forgannwg gyrraedd 88-2.

Cafodd yr ornest ei chwtogi unwaith eto i 40 o belawdau ac fe ddechreuodd Goodwin glatsio unwaith eto, y troellwr Jeetan Patel a Richard Jones yn diodde’r tro hwn.

Tarodd Rudolph bedwar arall oddi ar Patel cyn cael ei stympio wrth ddod i lawr y llain.

Wedi i Chris Cooke gamu i’r llain, tarodd ddau bedwar oddi ar Javid cyn i Goodwin daro pedwar oddi ar Patel, gan gyrraedd ei hanner cant oddi ar 40 o belenni cyn colli ei wiced yn ddiweddarach yn y belawd.

Daeth Graham Wagg i’r llain wrth i Cooke barhau i glatsio ergydion i’r ffin, ond dychwelodd Wagg i’r pafiliwn yn fuan wedyn, wedi’i ddilyn gan Cooke a gafodd ei stympio wrth geisio clatsio oddi ar Javid i gyfeiriad y traeth.

Daeth cyfnod clatsio arall yn y ddwy belawd olaf, ond fe ddaeth y glaw wedi 39 o belawdau gyda’r cyfanswm yn 225-7, a doedd hi ddim yn bosib dychwelyd i gwblhau’r belawd olaf.

Batiad Swydd Warwick

Oherwydd cyfnod hir oddi ar y cae yn sgil y glaw, 90 oddi ar 10 pelawd oedd nod yr ymwelwyr o dan system Duckworth-Lewis pan ail-ddechreuodd yr ornest am 5.38yh.

Tarodd Will Porterfield chwech oddi ar Michael Hogan yn y belawd gyntaf, ac fe ildiodd yr Awstraliad ddwy belen lydan wrth i Swydd Warwick gyrraedd 13-0.

Tarodd Porterfield chwech arall oddi ar Jim Allenby yn yr ail belawd, ond fe gollodd ei wiced yn y drydedd, wedi’i ddal gan Andrew Salter oddi ar fowlio Dean Cosker, y cyfanswm yn 23-1.

Daeth Laurie Evans i’r llain ac fe ychwanegwyd pedwar at y cyfanswm yn syth, cyn i Varun Chopra ychwanegu pedwar arall a’r ymwelwyr yn cyrraedd 35-1 erbyn diwedd y drydedd belawd.

Tarodd Laurie Evans ddau bedwar oddi ar Andrew Salter yn y bedwaredd belawd wrth i Swydd Warwick gyrraedd hanner ffordd o ran rhediadau – 45-1 oedd cyfanswm yr ymwelwyr.

Cafodd Graham Wagg ei gyflwyno yn y bumed pelawd ac fe ildiodd belen lydan yn ystod pelawd a gostiodd wyth rhediad, yr ymwelwyr yn 53-1 wedi pum pelawd.

Dean Cosker fowliodd y chweched pelawd ac fe gipiodd wiced Evans wrth i Chris Cooke ddal ei afael ar y daliad ar y ffin, yr ymwelwyr bellach yn 54-2.

Daeth Rikki Clarke i’r llain a tharo pedwar oddi ar Cosker wrth i Swydd Warwick gyrraedd 60-2 gyda phedair pelawd yn weddill, y nod yn 30 oddi ar 24.

Dychwelodd Wagg o ben Heol y Mwmbwls a buan y collodd Clarke ei wiced, wrth i ddryswch rhwng y batwyr roi’r cyfle i Cosker ei redeg Clarke allan, yr ymwelwyr yn llithro i 64-3 ar ddiwedd y seithfed belawd.

David Lloyd fowliodd yr wythfed belawd ac fe ollyngodd Gareth Rees ei afael ar ddaliad i gipio wiced Ateeq Javid cyn bowlio dwy belen lydan a ildiodd bedwar rhediad i gyd, yr ymwelwyr yn 77-3 gyda dwy belawd yn weddill.

Dychwelodd Hogan o ben Heol y Mwmbwls yn yr wythfed belawd, wrth i Forgannwg geisio atal Swydd Warwick rhag sgorio 13 rhediad oddi ar 12 o belenni.

Dechreuodd pelawd Hogan gyda dwy belen lydan ac fe darodd Chopra bedwar wrth i Forgannwg ildio cyn i’r bowliwr ildio pelen lydan arall.

Daeth yr ornest i ben wrth i Javid daro chwech, a Swydd Warwick yn ennill o saith wiced gyda naw o belenni’n weddill.