Bydd y Scarlets yn dechrau eu hymgyrch Ewropeaidd eleni ar 19 Hydref gyda thrip heriol i dde Ffrainc i herio Toulon, gyda’r gic gyntaf am 16.30yp.

Mae gan y Gweilch gêm ychydig yn haws i gychwyn wrth iddyn nhw herio Treviso gartref yn gynharach y prynhawn hwnnw yn eu gêm gyntaf nhw yng Nghwpan y Pencampwyr Rygbi Ewropeaidd newydd.

Yn y Cwpan Sialens, mae’r Gleision yn croesawu Grenoble i Barc yr Arfau am y gêm agoriadol, tra bod y Dreigiau yn teithio i Stade Francais.

Bydd ail gêm y Scarlets yng Nghwpan y Pencampwyr, gartref yn erbyn Caerlŷr, yn cael ei darlledu’n fyw ar BT Sport, sydd yn rhannu hawliau darlledu’r gystadleuaeth newydd gyda Sky.

Bydd Bois y Sosban hefyd yn herio Ulster mewn grŵp heriol, fydd yn gorffen gydag ymweliad Toulon â Pharc y Scarlets ym mis Ionawr.

Fe fydd y Gweilch yn gorffen i ffwrdd yn Treviso, ond gyda gemau caled yn erbyn Northampton a Racing Metro cyn hynny.

Y Gleision a’r Dreigiau

Mae’r Gleision a’r Dreigiau yn dal i aros i weld pwy fydd y pedwerydd tîm yn eu grŵp nhw, gyda thîm y brifddinas yn herio un ai Rovigo neu Tblisi, a thîm Gwent yn chwarae un ai Bucharest neu Calvisano.

Yn y cyfamser, mae’r Scarlets wedi cyhoeddi fod cyn-faswr Cymru Byron Hayward wedi ymuno â’r rhanbarth fel hyfforddwr amddiffyn.

Penwythnos Un (17/18/19 Medi)

Toulon v Scarlets

Gweilch v Treviso

Gleision v Grenoble

Stade Francais v Dreigiau

Penwythnos Dau (24/25/26 Medi)

Scarlets v Caerlŷr

Northampton v Gweilch

Rovigo neu Tblisi v Gleision

Dreigiau v Newcastle