Mae Luis Suarez wedi colli apêl yn erbyn gwaharddiad o bedwar mis am frathu gwrthwynebydd y tymor diwethaf.
Ond fe fydd cyn-ymosodwr Lerpwl yn cael ymarfer gyda’i glwb newydd, Barcelona.
Cafodd waharddiad o bob agwedd ar bêl-droed wedi iddo frathu amddiffynnwr Yr Eidal, Giorgio Chiellini yng Nghwpan y Byd.
Fel rhan o’r gwaharddiad, nid oes gan Suarez hawl i chwarae dros Wrwgwai am naw gêm.
Prynodd Barcelona yr ymosodwr am £75 miliwn yn ystod yr haf ac roedden nhw’n awyddus i sicrhau bod modd iddo fe ymarfer cyn dechrau’r tymornewydd.
Bellach fe fydd e’n cael ymgymryd â dyletswyddau gyda noddwyr ac elfennau eraill oddi ar y cae.