Gwyn Jones
Cyn-gapten Cymru a sylwebydd S4C Gwyn Jones sy’n galw am newid cyfeiriad ar y cae rygbi wrth i Gymru herio De Affrica yn y prawf cynta’ yfory…
Mae’r gemau paratoawl wedi bod. Dyw’r Prawf Cyntaf ddim ar dir uchel. Mae gan y Springboks drafferthion go fawr yng nghanol yr olwyr. A yw hwn yn gyfle gwirioneddol i flasu buddugoliaeth hanesyddol yn Ne Affrica?
Er gwaethaf y ffactorau ffafriol yma, dw i’n dal i gredu taw’r Springboks yw’r ffefrynnau. Ond yr hyn sydd yn fy niddori fwyaf yw gweld a fydd Cymru wedi newid eu harddull chwarae mewn unrhyw ffordd ers ymgyrch aflwyddiannus y Chwe Gwlad.
Mae’n teimlo fel amser maith yn ôl erbyn hyn, ond efallai y byddwch yn cofio i Warren Gatland ddweud ar ddiwedd y bencampwriaeth y tymor hwn bod angen i Gymru newid arddull gan fod gwledydd eraill wedi dechrau atal Cymru rhag chwarae yn ôl eu patrwm arferol.
Yn wir, fe gawsom flas ar yr arddull wahanol yn y ffordd y chwaraeodd Cymru yng ngêm olaf y Bencampwriaeth.
Fe welsom Liam Williams yn gwrthymosod, y bêl yn cael ei lledu i fwy o safleoedd dwfn mewn dull llai systematig.
Cofiwch, mi oedd hynny yn erbyn tîm truenus Yr Alban a oedd yn chwarae gyda 14 dyn am ran fwyaf o’r gêm. Ond cawsom gydnabyddiaeth gan yr hyfforddwr yn y diwrnodau ar ôl y gêm bod timau wedi mynd i’r afael ag arddull chwarae Cymru a bod angen addasu tipyn bach ar y tactegau sydd wedi bod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf.
Angen addasu cyn Cwpan y Byd
Rhaid cofio bod Lloegr yn yr un grŵp â ni yng Nghwpan y Byd 2015 a’u bod nawr yn dîm grymus unwaith eto ar ôl rhai blynyddoedd ar ddisberod.
Roedd y grasfa a roddodd Cymru i’r hen elyn o 30-3 ychydig dros flwyddyn yn ôl yn atgof pell bellach. Mae Stuart Lancaster wedi cael trefn ar ei garfan ac maen nhw mewn hwyliau penderfynol.
Fe ddylai hynny fod yn rheswm digonol i Gymru fwrw ati i addasu’r strategaeth ac mae’r ffaith bod Cymru nawr yn wynebu un o dimau mwyaf corfforol y byd yn rhoi mwy o reswm fyth i Gatland newid cyfeiriad ychydig.
De Affrica
Mae hyd yn oed y Crysau Duon yn barod i addasu eu tactegau cyn wynebu De Affrica. Y nhw yw’r unig dîm sy’n curo’r Boks yn gyson gartref ac maen nhw’n gwneud hynny drwy fod yn glyfrach, yn gyflymach ac yn fwy medrus na nhw.
Fe wnaeth hyfforddwr newydd De Affrica, Heyneke Meyer, gyflwyno arddull fwy rhydd y tymor diwethaf.
Mae’r Springboks wedi bod yn ein llethu ni gyda thacteg o gicio a chwarae’n dynn ond mae Meyer wedi ail gyflwyno patrwm sy’n fwy addas ar gyfer eu hathletwyr grymus.
Yr oedd yr hen Dde Affrica yn seilio eu gêm ar redeg pwerus cyflym yn y chwarae rhydd ac roedden nhw’n arfer curo pawb heblaw Seland Newydd yn chwarae fel hyn.
Gan nad oes ganddynt gymaint o nerth yng nghanol y cae, yn enwedig yn sgil colli eu capten Jean de Villiers, mae’n bosib y byddan nhw yn dibynnu ar rym corfforol hen ffasiwn yn y prawf cyntaf.
Os felly, rhaid i Gymru beidio syrthio i’r fagl o chwarae gêm ymosodol yn erbyn tîm sydd yn hen feistri yn chwarae rygbi o’r math yma.
Os oes gwendidau yn nhîm y Springboks, nid trwy ddefnyddio’r pac a symudiadau ymhlith y blaenwyr y mae manteisio arnynt.
Targedu’r canolwyr
Mae’n rhaid i Gymru dargedu canolwyr De Affrica. Rhaid i’w partneriaeth dros dro deimlo grym Jamie Roberts a Jonathan Davies.
Ond er mwyn i’r dacteg weithio, rhaid cael sylfaen dda ymhlith y blaenwyr – sgrym gadarn a llinellau cywir.
Mae Adam Jones wedi cael trafferth yn y sgrym drwy gydol y flwyddyn ac mae’n rhaid iddo ail sefydlu ei awdurdod yn y sgrym. Bydd angen iddo fod ar ei orau er mwyn i Gymru greu cyfleoedd ar gyfer yr olwyr.
Yr wyf yn poeni ychydig nad oes gan Gymru flaen asgellwr ochr agored naturiol yn y tîm. Ar lefel ryngwladol, mae angen rhif saith modern sy’n rymus yn ardal y dacl. Rhywun sy’n gallu dwyn y bêl ac ennill ciciau cosb.
Heb ein dau flaenasgellwr gorau, Warburton a Tipuric, gallaf ddeall yr awydd i roi’r rôl yma i un o’r blaen asgellwr eraill.
Mae’n wir fod yr holl chwaraewyr yn chwarae’r rôl yma’r dyddiau hyn, nid oes unrhyw un yn fwy amlwg yn y rôl na’r prop crwydrol Gethin Jenkins.
Fodd bynnag, rhaid peidio caniatáu i chwaraewr o allu Francois Louw gael pen rhyddid. Fe yw taclwr arbenigol tîm y Springboks.
Mainc i Mathew Morgan
Rhaid bod yn ofalus rhag gweld gormod o arwyddocâd yn y gemau paratoawl ond os yw’r hyfforddwyr yn rhoi unrhyw werth arnynt o gwbl yna dylai Mathew Morgan fod ar y fainc.
Mae wedi disgleirio yn y ddwy gêm ac os bydd angen i Gymru i fentro yn yr ugain munud olaf, yna fe all e gynnig yr annisgwyl.
Rwy’n credu y bydd hon yn gêm brawf modern – yn gorfforol galed fel arfer. Gallai Cymru ysgwyd y Boks ac os gallan nhw fanteisio ar eu gwendidau y tu ôl i’r sgrym, mae buddugoliaeth fawr yn bosibl.
Ond dw i’n meddwl mai De Affrica fydd yn ennill a hynny o ychydig bwyntiau.
Fodd bynnag, yn bwysicach na dim, yr wyf am weld a all Cymru symud yn ei blaen. Mae’r hyfforddwyr wedi cael mis i baratoi gyda’r chwaraewyr ac mae hynny wedi rhoi digon o amser i Gatland addasu’r tactegau fel yr oedd wedi awgrymu y byddai. Cawn weld.
Uchafbwyntiau’r gêm ar S4C nos yfory am naw yng nghwmni Shane Williams, Arthur Emyr a Gwyn Jones.