Mae rhanbarth y Dreigiau wedi arwyddo’r blaenasgellwr a’r wythwr Andy Powell.

Daeth ei gyfnod aflwyddiannus yn chwarae rygbi’r gynghrair i Wigan i ben y tymor diwethaf, yn dilyn llawdriniaeth ar ei ysgwydd.

Fe fu’n rhaid iddo golli Cwpan y Byd oherwydd yr anaf.

Mae’n dychwelyd i’r rhanbarth lle chwaraeodd i Gasnewydd yn gynharach yn ei yrfa.

Mae e hefyd wedi cynrychioli Caerlŷr, Beziers, y Scarlets, y Gleision, Picwns Llundain a Siarcod Sale.

Enillodd 23 o gapiau dros Gymru hyd yn hyn, ac roedd yn aelod o garfan y Llewod yn Ne Affrica yn 2009.

Fe fydd e’n cystadlu yn erbyn Taulupe Faletau am grys yr wythwyr ar Rodney Parade – y frwydr a gollodd pan ddaeth y ddau benben â’i gilydd am grys rhif wyth Cymru.

Mae Powell yn ymuno â rhestr hir o chwaraewyr sy’n symud i Rodney Parade y tymor nesaf.

Eisoes, mae’r Dreigiau wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo’r cefnwr Lee Byrne, yr asgellwr Aled Brew, y cloeon Ligtoring Landman ac Ian Gough, y tri phrop Boris Stankovich, Dave Young a Lloyd Fairbrother, a’r bachwr Rhys Buckley.

Cymeriad lliwgar

Oddi ar y cae, mae Andy Powell wedi darganfod ei hun mewn dyfroedd dyfnion ar sawl achlysur.

Yn 2010, cafodd ei arestio am ddwyn cerbyd golff o westy ym Mro Morgannwg lle’r oedd carfan Cymru’n aros yn dilyn eu buddugoliaeth dros Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yn gynharach eleni, daeth i’r amlwg fod ei berthynas â’i gariad wedi dod i ben yn dilyn honiadau ei fod e wedi cael perthynas â merch arall.

Aeth hi at y wasg ar ôl cyhoeddi ei bod hi wedi gwerthu ei ddillad ac offer rygbi ar wefan e-bay.

Daeth Powell a Natasha Gascoine yn ôl at ei gilydd pan ddarganfyddodd hi ei bod hi’n feichiog.