Mae hyfforddwr y Gweilch Gruff Rees am iddynt orffen yn gryf yn y gêm yn erbyn Connacht ar waethaf y ffaith iddynt fethu â chyrraedd y gemau ail chwarae yng nghystadleuaeth y Pro12.
Collodd y Gweilch gyfle i chwarae yn y gemau hynny drwy golli’n siomedig 30-27 yn erbyn Zebre yn yr Eidal nos Iau ddiwethaf.
‘‘Yr oedd y garfan yn hynod o siomedig gyda’r canlyniad. Yr oedd yn deimlad diflas ofnadwy a gobeithio y bydd yna ymateb da i’r canlyniad yr wythnos hon,’’ meddai Gruff Rees.
‘‘Mi wnaeth y canlyniad [yn erbyn Zebre] ein brifo, ond mae’n rhaid dangos agwedd hollol broffesiynol yn erbyn Connacht,’’ ychwanegodd Rees.
Oherwydd iddynt orffen yn y pumed safle am yr ail flwyddyn yn olynol fe fydd y Gweilch yn cystadlu am Bencampwriaeth Cwpan Ewrop y tymor nesaf.
Dim ond un allan o’r pum gêm ddiwethaf gartef ymhob cystadleuaeth y mae’r Gweilch wedi ei cholli a hynny 25-11 yn erbyn Munster. Ers curo’r Dreigiau ar Rodney Parade ym mis Mawrth mae Connacht wedi colli pob un o’u pedair gêm.
Ar derfyn tymor siomedig bydd yn rhaid i chwaraewyr y Gweilch ddangos balchder wrth wisgo’r crys ar y Liberty nos yfory am 6:30 y.h
Tîm y Gweilch
Olwyr – Sam Davies, Hanno Dirksen, Ashley Beck, Andrew Bishop, Jeff Hassler, Dan Biggar a Tom Habberfield.
Blaenwyr – Nicky Smith, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Alun Wyn Jones (Capten), Ian Evans, Sam Lewis, Justin Tipuric a Dan Baker.
Eilyddion – Scott Otten, Marc Thomas, Adam Jones, Tyler Ardron, Joe Bearman, Tito Tebaldi, Jonathan Spratt a Aisea Natoga.