Mae Capten tîm rygbi dan 20 oed Cymru, Steffan Hughes, yn barod am yr her o geisio cipio Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd eleni.

Mae canolwr y Scarlets wedi cael ei dewis i arwain Cymru wrth iddynt deithio i Seland Newydd ar gyfer Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn ystod yr haf.

Yn ogystal â Hughes mae’r asgellwyr profiadol Hallam Amos a Dafydd Howells wedi cael eu dewis yng ngharfan Cymru dan 20 oed.

Trydydd yn y Chwe Gwlad

Ar ôl gorffen yn y trydydd safle ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, mae Hughes wedi cyfaddef bod yna lawer o bethau sydd angen i’w wneud cyn y Bencampwriaeth.

‘‘Mae’n bwysig ein bod yn ymarfer yn galed yr wythnos yma, mae’n rhaid i ni chwarae’n dda ac ennill gemau yn ein grŵp,’’ meddai Hughes.

Mae’r chwaraewr 20 oed sydd wedi cymryd blwyddyn allan o’i astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe, i ganolbwyntio ar ei rygbi yn teimlo bod y Bencampwriaeth yn gyfle gwych i chwaraewyr ifanc dangos ei sgiliau a’u doniau ar y cae.

‘‘Mae’r gemau ar Sky Sports a bydd nifer o’r hyfforddwyr yn gwylio’r gemau, hyfforddwyr o’r rhanbarthau a’r clybiau eraill.

“Mae gyda ni nifer o chwaaewyr profiadol yn y garfan a gobeithio y byddwn yn elwa’n aruthrol o’u profiad,’’ ychwanegodd Hughes.