Gleision 28–23 Ulster

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth gofiadwy yn eu gêm gartref olaf o’r tymor yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn.

Mae’r rhanbarth wedi cael tymor hynod siomedig hyd yn hyn a doedd fawr o neb yn disgwyl iddo wella wrth i Ulster ymweld â phrifddinas Cymru. Ond fe frwydrodd y tîm cartref yn ddewr ac fe giciodd Gareth Davies yn berffaith at y pyst i roi rhywbeth i’r cefnogwyr cartref fod yn falch ohono am newid.

Roedd y canlyniad yn ffordd dda o ddathlu ymddangosiad cyntaf Matthew Rees yn ôl yn y tîm yn dilyn cyfnod allan yn dioddef o gancr.

Hanner Cyntaf

Roedd hi’n ymddangos fod tymor trychinebus y Gleision am barhau pan dorrodd Darren Cave trwy dacl Dan Fish i groesi am gais agoriadol Ulster wedi llai na thri munud, ond er mawr glôd i’r Gleision fe gafwyd ymateb da.

Yn wir y tîm cartref oedd y tîm gorau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd bwynt ar y blaen diolch i ddwy gic gosb o droed Davies.

Yna, ddeg munud cyn yr egwyl fe dderbyniodd Dan Tuohy gerdyn melyn cyn i Davies drosi tri phwynt arall ac roedd y Cymry’n rheoli.

Daeth pedwaredd cic gosb yn fuan wedyn yn dilyn sgarmes symudol 40 medr gwbl anhygoel gan bac y Gleision.

Y cwbl oedd ei angen i goroni perfformiad yr hanner cyntaf oedd cais ac fe ddaeth hwnnw mewn steil bum munud cyn yr egwyl. Torrodd Alex Cuthbert yn rhydd i lawr y chwith cyn rhyddhau Robin Copeland gyda phas ddeheuig, a rhedodd yr wythwr yr holl ffordd at y llinell gais.

Llwyddodd Davies gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb arall ar ddiwedd yr hanner i roi mantais o 22-5 i’w dîm ar yr egwyl.

Ail Hanner

Doedd y Gleision ddim cystal yn yr ail gyfnod ac fe gaeodd Paddy Jackson y bwlch i wyth pwynt gyda thair cic gosb cyn yr awr.

Nid oedd Davies yn cael gêm wych yn amddiffynnol ond llwyddodd y maswr i ostegu ychydig ar y llif gyda chic gosb i’r Gleision chwarter awr o’r diwedd, ond yn ôl y daeth Ulster a Jackson gyda thair arall yn y deg munud wedyn.

Dim ond dau bwynt oedd ynddi felly wrth i’r chwiban olaf agosáu, ac fe ymestynnodd Davies y bwlch hwnnw i bump pan lwyddodd gyda’i wythfed cic allan o wyth funud o’r diwedd.

Byddai trosgais wedi ennill y gêm i’r Gwyddelod o hyd ond fe ddaliodd amddiffyn y Gleision yn ddewr am dri munud gyda’r cloc yn goch i sicrhau buddugoliaeth dda.

Mae’r Gleision yn aros yn y degfed safle yn nhabl y Pro12 er gwaetha’r fuddugoliaeth.

Ymateb

Bachwr y Gleision, Matthew Rees:

“Mae hwn wedi bod yn dymor siomedig i ni hyd yma ac roedd hi’n gêm siomedig iawn yn erbyn y Gweilch yr wythnos ddiwethaf. Roedd yna ambell air cas yr wythnos hon, fe wnaethom ni ymarfer yn dda, a chwarae teg i’r bois, fe wnaethon nhw’n dda iawn i guro Ulster.”

“ Mae hi wedi bod yn ychydig o fisoedd anodd i mi ond rwy’n berson eithaf positif. Roeddwn i’n ffodus iawn i allu hyfforddi trwy gydol y driniaeth ac mae’r gefnogaeth rwyf wedi ei chael trwy’r byd i gyd wedi bod yn wych.”

.

Gleision

Cais: Robin Copeland 36’

Trosiad: Gareth Davies 37’

Ciciau Cosb: Gareth Davies 13’, 26’, 30’, 33’, 39’, 65’, 79′

.

Ulster

Cais: Darren Cave 3’

Ciciau Cosb: Paddy Jackson 44’, 48’, 57’, 67’, 72’, 75’

Cerdyn Melyn: Dan Tuohy 30’