Bydd nifer o’r sêr rhyngwladol yn dychwelyd i dîm y Scarlets ar gyfer y gêm yn erbyn Connacht ar Barc y Scarlets ddydd Sul.

Gyda dim ond pum gêm yn weddill yn y gystadleuaeth Pro12 a phedair ohonynt gartref mae’r Scarlets yn edrych am fuddugoliaeth yn erbyn y Gwyddelod.  Mae’r Scarlets wedi ennill eu pedair gêm olaf yn erbyn Connacht ac hefyd wedi cipio buddugoliaeth yn eu tair gêm olaf gartref.  Nid yw’r tîm o Iwerddon wedi curo’r Scarlets ers Hydref 2004.

‘‘Mi ddylai’r ffaith ein bod yn chwarae pedair allan o’n pum gêm adref fod o fantais i ni.  Fe ddylem fod yn hyderus yn ein gallu i gyrraedd y chwe uchaf yn y gynghrair,’’ meddai hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby.

Daw’r blaenwyr Ken Owens, Rhodri Jones a Jake Ball fewn i’r tîm ac fe fydd Rhys Priestland, Liam Williams a Jonathan Davies yn dod â phrofiad i’r olwyr.  Davies fydd yn arwain y tîm yn absenoldeb McCusker.

‘‘Mae cael y chwaraewyr rhyngwladol yn ôl yn mynd i fod yn bwysig i ni o nawr hyd ddiwedd y tymor.  mae yna lawer o gyfrifoldeb yn mynd i fod ar ysgwyddau Rhys Priestland a Jonathan Davies yn ystod yr wythnosau nesaf,’’ ychwanegodd Easterby.

Ar ôl colli mewn perfformiad siomedig yn erbyn Glasgow wythnos yn ôl mae gorffen yn y pedwar uchaf wedi mynd ymhellach o’u gafael.

‘‘Yr oeddem yn siomedig a rhywstredig yn dilyn ein perfformiad yn erbyn Glasgow ac mae’r 5 gêm nesaf yn allweddol i orffen yn y 6 uchaf,’’ dywedodd Easterby.

‘‘Mae Connacht wedi ennill 4 gêm o’r bron ac maent yn y seithfed safle a dim ond pedwar pwynt y tu ôl i ni.  Maent wedi dechrau chwarae yn dda o dan hyfforddiant Pat Lam a bydd yn rhaid i’n disgyblaeth fod yn dda,’’ ychwanegodd Easterby.

Mi fydd y gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru b’nawn Sul.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, Kristian Phillips, Jonathan Davies (Capten), Olly Barkley, Jordan Williams, Rhys Priestland a Gareth Davies.

Blaenwyr – Phil John, Ken Owens, Rhodri Jones, Jake Ball, Johan Snyman, Josh Turnbull, John Barclay a Sione Timani.

Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Richard Kelly, Lewis Rawlins, Rhodri Williams, Aled Thomas a Gareth Maule.