Matthew Rees
Ar ôl bod allan o’r gêm ers mis Hydref oherwydd afiechyd mae’r cyn fachwr rhyngwladol Matthew Rees wedi ei gynnwys ar y fainc i dîm y Gleision.  Mae’r Gleision wedi gwneud saith newid i’r tîm a gollodd mor siomedig i’r Gweilch, ar gyfer y gêm yn erbyn Ulster.

Bydd y chwaraewr rhyngwladol o Samoa, Isaia Tuifua yn dechrau yn y canol gyda Cory Allen.  Bydd Harry Robinson yn colli’r gêm oherwydd anaf i’w bigwrn a daw Chris Czekaj i fewn ar yr asgell.  Caiff y mewnwr Lewis Jones gyfle i ddechrau gêm gyda Gareth Davies fel maswr.

Daw Kristian Dacey i’r tîm fel bachwr a bydd y clo Lou Reed yn gwneud ei ganfed ymddangosiad yn y Pro 12.  Y newid arall fydd Macauley Cook yn dechrau fel blaenasgellwr ar yr ochr dywyll.  Josh Navidi a Robin Copeland fydd yn gwneud ei hanner canfed ymddangosiad dros y Gleision fydd y ddau aelod arall o’r rheng-ôl.

‘‘Nid oeddem yn hapus gyda’n perfformiad yr wythnos ddiwethaf ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn ymateb yn y ffordd gywir.  Mae’n rhaid dangos parch i’r crys a rhoi perfformiad da yn ein gêm gartref olaf ar Barc yr Arfau,’’ dywedodd yr hyfforddwr, Dale McIntosh.

‘‘Mae’n rhaid i ni fod wedi paratoi yn gywir yn feddyliol ac nid ydym am adael Parc yr Arfau ar ddiwedd y tymor ar nodyn sur.  Mae pob gêm yn enfawr ac yn gofyn am ymdrech fawr er mwyn ein cefnogwyr.  Mae cael Matthew Rees yn ôl yn ysbrydoliaeth i ni gyd, rwy’n siwr y caiff dderbyniad da ac mae’n awyddus i wisgo crys y Gleision unwaith eto,’’ ychwanegodd McIntosh.