Mae bachwr y Dreigiau, Steve Jones, yn gobeithio y bydd cipio buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Munster yn rhoi hwb i’w dîm i gyrraedd y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Jones fydd capten y Dreigiau wrth iddyn nhw deithio i Barc Musgrove ar gyfer y gêm sy’n fyw ar S4C am 7:25 nos fory, gyda’r capten arferol Luke Charteris yn cael ei orffwyso.

“Mae gennym ni rownd gyn derfynol y Cwpan LV ar ôl y gêm Munster a gyda rhediad gobeithio y gallwn ni wthio am le yn y pedwar uchaf” meddai Jones.

“Rydan ni wastad yn curo Munster adref ac fe wnaethon ni ennill draw yna pan oedd Mike Ruddock yn hyfforddwr. Mae rhai pobl yn dweud ei fod yn le ofnus i fynd, ond mae’n wych gydag awyrgylch drydanol ar y maes.”

“Wrth reswm, rydan ni am fod yn y Cwpan Hineken ac mae’n rhaid gorffen yn y tri uchaf (o dimau Cymru) i wneud hynny ond y gemau ail gyfle ydy lle rydych chi eisiau bod ar ddiwedd y tymor” ychwanegodd y bachwr.

Mae’r chwaraewr rheng ôl, Toby Faletau, nôl o’r anaf a’i gorfododd i dynnu allan o garfan Cymru tra bod yr asgellwr Matthew Pewtner yn dechrau ei gêm gyntaf i’r rhanbarth ers mis Medi diwethaf.

Petai’r asgellwr arall, Aled Brew yn sgorio cais heno, fe fyddai’n torri record Gareth Wyatt fel prif sgoriwr ceisiau’r rhanbarth.

Tîm y Dreigiau i herio Munster: W Harries, A Hughes, T Riley, P Leach, M Pewtner, J Tovey; W Evans, H Gustafson, S Jones (C), B Castle, S Morgan, R Sidoli, A Coombs, T Faletau, J Bearman,

Eilyddion:  L Burns,  P Palmer, P Price, A Jones, L Evans, A Smith, J Evans, M Jones