Llanidloes 3 – 8 Y Bala

Ar nos Wener y 25ain o Chwefror fe groesawyd Y Bala i Lanidloes.

Doedd dim i wahanu’r ddau dîm yn yr hanner cyntaf, wrth i’r unig bwyntiau ddod o esgid y ddau faswr, Rhydian Jones i’r Bala a Dan Short i Lanidloes.

Ond gydag ychydig funudau cyn hanner amser a’r sgôr yn gyfartal, 3-3, fe anfonwyd Dochan Roberts, wythwr yr ymwelwyr, i’r gell cosb wedi i ddyrnau gael eu taflu gan rai chwaraewyr o’r ddau dîm. Teimla’r Bala fod Roberts wedi ei gosbi ar gam.

Er i’r Bala ddechrau’r ail hanner gyda dim ond 14 dyn ar y cae, methodd y tîm cartref a manteisio a’r oruchafiaeth mewn niferoedd.

Pan ddychwelodd Roberts i’r cae fe lwyddodd yr ymwelwyr i wthio allan o’i hanner a rhoi pwysau a’r amddiffyn Llanidloes, gyda’r blaenwyr yn gweithio’n galed i ennill tir.

Fe lwyddodd Y Bala i wneud yn fawr o’u cyfle wrth i’r blaenasgellwr Ilan Rowland geisio am y llinell gais.  Fe brofodd amddiffyn Llanidloes yn ystyfnig gan atal y blaenwr rhag tirio’r bêl a’i wthio i’r ystlys, ond llwyddodd Rowlands i daflu’r bêl yn ôl i’w gyd chwaraewyr yn y rheng ôl Ifan Hughes, a chroesodd am unig gais y gêm.

Methwyd y trosiad gan y Bala ac fe fu’n rhaid iddynt wrthsefyll ymdrechion Llanidloes am yr ugain munud olaf. Ond profodd cais Ifan Hughes yn ddigon i hawlio buddugoliaeth 3-8 i’r Bala.

Adroddiad gan Tony Parry