Tavis Knoyle
Bydd Tavis Knoyle yn dychwelyd i chwarae rygbi rhanbarthol yng Nghymru’r tymor nesaf ar ôl i’r Gleision gyhoeddi eu bod nhw am arwyddo’r mewnwr.
Mae’n golygu y bydd Knoyle yn gadael Caerloyw tymor yn unig ar ôl arwyddo i’r clwb ar gytundeb o ddwy flynedd.
Hyd yn hyn mae wedi ymddangos naw gwaith y tymor hwn i Gaerloyw, gyda chwech o’r rheiny yng Nghwpan LV.
Fe wnaeth Knoyle enw i’w hun gyda’r Scarlets, yn ogystal ag ennill 11 cap dros Gymru, cyn symud i Gaerloyw yn 2013.
Ac fe ddywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Gleision Phil Davies ei fod yn hynod o falch o allu croesawu mewnwr, a fu’n rhan o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2011, i’r rhanbarth.
“Rydym ni’n hynod o lwcus fod gennym ni fewnwyr da iawn yma gan gynnwys Lloyd Williams, Lewis Jones a Tomos Williams,” meddai Phil Davies. “Ond mae angen dyfnder arnom ac mae Tavis ychydig yn wahanol, ac fel uned fe fyddan nhw’n gweddu’n dda â’i gilydd.
“Mae Tavis yn rhywun rwy’n nabod yn dda o’m dyddiau gyda thîm dan-20 Cymru, ble roddais i ei gap cyntaf iddo, ac mae’n fewnwr sy’n gweithio’n galed. Mae’n fygythiad o gwmpas y ryc gyda gêm gicio bocs da.
“Mae’n gyfle gwych i ni ac yn grêt i Tavis. Rwy’n gwybod ei fod wrth ei fodd yn dychwelyd adref ac rydyn ni wrth ein boddau ei gael. Rydym ni wedi arwyddo chwaraewr Cymru rhagorol.”