Scarlets 13–7 Caerloyw
Mae gobeithion y Scarlets yn fyw o hyd yn y Cwpan LV ar ôl curo Caerloyw a’i cyn hyfforddwr, Nigel Davies, ar Barc y Scarlets nos Wener.
Roedd cais yr un gan Steffan Hughes ac Adam Warren yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Fois y Sosban.
Cais Hughes oedd unig sgôr yr hanner cyntaf wrth i’r tîm cartref anelu am yr ystafell newid bump pwynt ar y blaen.
Unionodd Freddy Burns bethau gyda chais yn gynnar yn yr ail hanner cyn ei drosi i roi’r ymwelwyr ar y blaen.
Rhoddodd tri phwynt o droed Josh Lewis y Cymry yn ôl ar y blaen ar yr awr a diogelwyd y fuddugoliaeth bedwar munud o’r diwedd pan groesodd Adam Warren am ail gais ei dîm.
13-7 y sgôr terfynol felly, ac mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn yr ail safle yng ngrŵp 4, gyda’r tri thîm arall yn chwarae yfory yn y gystadleuaeth hon ble mae pawb yn herio timau o grwpiau eraill yn hytrach na’i grŵp eu hunain.
.
Scarlets
Ceisiau: Steffan Hughes 33’, Adam Warren 76’
Cic Gosb: Josh Lewis 61’
.
Caerloyw
Cais: Freddy Burns 54’
Trosiad: Freddy Burns 54’