Bydd canolwr y Gweilch Jonathan Spratt yn arwain y rhanbarth yn erbyn Caerwysg yng Nghwpan yr LV yfory am dri o’r gloch. Dyma fydd hanner canfed gêm Spratt i’r rhanbarth.
‘‘Mae hwn yn gyfnod diddorol pan fyddwn yn cael golwg ar rai o’r chwaraewyr ifanc yn chwarae ar y lefel yna. Dyma fydd rai o genhedlaeth nesaf y Gweilch. Mae’r bechgyn yma yn dod a rhyw gyffro ganddynt ac maent am ddysgu a gwella eu gêm. Mae Cwpan yr LV wedi bod yn gyfle i nifer o chwaraewyr greu argraff yn y gorffennol,’’ meddai rheolwr y Gweilch Steve Tandy.
Fe gymerodd Justin Tipuric, James King, Rhys Webb a Hanno Dirksen eu cyfle ar y lefel yma cyn dod yn aelodau tîm cyntaf y Gweilch. Dyma’r neges y byddwn yn ei rhi i’r bechgyn fydd yn chwarae yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yn brofiad da iddynt ddangos eu doniau ar y cae ac i hawlio eu lle yn nhîm y Gweilch,’’ ychwanegodd Tandy.
Tîm y Gweilch
Olwyr – R Jones, T Grabham, J Spratt (Capten), M Jenkins, D Howells, M Morgan a T Habberfield.
Blaenwyr – M Thomas, M Dwyer, D Suter, L Peers, R Hughes, T Ardron, A Ellis a M Allen.
Eilyddion – R Hutchinson, N Smith, J Rees, A Beard, D Baker, L Evans, L Price a A Natoga.