Mae’n bosib na fyddai Caerdydd na Hull yn medru chwarae yn Ewrop y tymor nesaf, petai un ohonyn nhw yn llwyddo i ennill lle yno ar ddiwedd y tymor.
Mae’r ddau dîm dal yng Nghwpan FA Lloegr wrth i gemau’r bedwaredd rownd gael eu chwarae’r penwythnos yma, gyda Chaerdydd yn teithio i Bolton a Hull yn herio Southend.
Ac fe fyddai ennill y gwpan honno (neu hyd yn oed golli yn y ffeinal o dan rhai amgylchiadau) yn golygu lle i’r clwb buddugol yng Nghynghrair Ewropa y tymor nesaf.
Rheolau chwarae teg ariannol UEFA
Ond yn ôl un arbenigwr ar reolau chwarae teg ariannol, mae’n bosib na fyddai’r un o’r ddau glwb yn cael caniatâd gan UEFA i chwarae yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf petai nhw’n ennill y gwpan, oherwydd nad ydyn nhw wedi cwrdd â’r gofynion.
Mae’r rheolau ‘chwarae teg ariannol’ (Financial Fair Play) yn sicrhau nad oes gan glybiau Ewropeaidd hawl i wneud gormod o golledion o flwyddyn i flwyddyn, gyda chosbau’n cynnwys dirwyon neu waharddiad o gystadlaethau Ewropeaidd.
Ac yn ôl Ed Thompson, rheolwr prosiectau ariannol sydd yn rhedeg gwefan financialfairplay.com, mae’n ymddangos bod Caerdydd a Hull wedi gwneud gormod o golledion y tymor yma.
Y ddyled yn cynyddu
Mae gan glybiau ganiatâd i wneud colledion o hyd at £45m yn eu busnes dros dair blynedd o dan y rheolau.
Ond o dan reolau adennill costau UEFA, mae’n rhaid i berchnogion y clwb gyfrannu arian i lenwi unrhyw golledion sy’n cael ei wneud ym musnes y clwb cyn medru pasio’r gofynion chwarae teg.
Yn ôl cofnodion Companies House nid yw perchennog Caerdydd Vincent Tan na pherchennog Hull Assem Allam wedi rhoi’r arian sydd ei angen i’w clybiau dros y ddau dymor diwethaf.
Mae hyn yn golygu bod dyledion y clybiau’n tyfu, sydd yn mynd yn erbyn egwyddorion y rheolau chwarae teg, ac yn golygu bod chwarae yn Ewrop yn annhebygol i’r un o’r ddau glwb y tymor nesaf.
“Mae’n anodd credu y byddai UEFA’n caniatáu i glwb sydd yn methu’r gofynion soddgyfran hynny ac sydd gyda dyledion sy’n cynyddu i gystadlu yn eu cystadlaethau,” meddai Ed Thompson.
Ond os na fydd y clybiau’n ennill yng Nghwpan yr FA yfory, mae’n bosib iawn na fydd ots am y rheolau hynny, gyda’r un o’r clybiau’n edrych fel petai nhw am gyrraedd Ewrop drwy’r gynghrair.
Mae Caerdydd ar hyn o bryd ar waelod yr Uwch Gynghrair, gyda Hull yn 11fed, a dim ond y pump uchaf yn sicr o’u lle yn Ewrop y tymor nesaf.