Mae tri o chwaraewyr tîm dan 20 oed Cymru yn nhîm y Dreigiau a fydd yn gwynebu Northampton Saints yfory ar faes Rodney Parade.

Bydd Elliot Dee, James Benjamin a Luc Jones yn dechrau mewn tîm sy’n gymysgedd o chwaraewyr ifanc a phrofiadol.

‘‘Mae gennyf deimlad da am y tîm.  Yr wyf yn teimlo yn hyderus yn fy ngallu ac yr wyf am ddangos i’r hyfforddwyr beth fedraf ei wneud.  Mi fydd Northampton yn ein herio ac mae ganddynt linell ymosodol gryf a chanolwyr mawr,’’ dywedodd Elliot Dee.

Mae rheolwr y Dreigiau Lyn Jones wedi gwneud deg newid i’r tîm fydd yn dechrau.  Bydd Dan Evans yn cadw ei le fel cefnwr, Matthew Pewtner a Will Harries fydd yr asgellwyr gyda Pat Leach a Ashley Smith yn y canol.  Bydd Jason Tovey yn dychwelyd fel maswr ar ôl gwella o’i anaf a Luc Jones fydd y mewnwr.

Phil Price, Elliot Dee a Nathan Buck fydd aelodau’r rheng flaen.  Yr hen ben Adam Jones a’r chwaraewr ifanc Cory Hill fydd yn dechrau yn yr ail reng.  Bydd y blaenasgellwyr Lewis Evans yn dychwelyd i arwain y tîm, a bydd seren y tîm dan 20 oed James Benjamin a chwaraewr rhyngwladol Fiji Netani Talei yn ymuno ag ef yn y rheng-ôl.  Ymysg yr eilyddion mae’r prop Joe Mills sydd ar fenthyg o glwb Bedwas.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Dan Evans, Matthew Pewtner, Pat Leach, Ashley Smith, Will Harries, Jason Tovey a Luc Jones.

Blaenwyr – Phil Price, Elliot Dee, Nathan Buck, Cory Hill, Adam Jones, Lewis Evans (Capten), James Benjamin a Netani Talei.

Eilyddion – T. Rhys Thomas, Owen Evans, Joe Mills, Matthew Screech, Jevon Groves, Richie Rees, Kris Burton a Ross Wardle.