Bydd canolwr Cymru Owen Williams yn dychwelyd i dîm y Gleision ar gyfer y gêm yn erbyn Caerfaddon yng nghwpan yr LV yfory.  Nid yw Williams wedi chwarae i’r Gleision ers iddo ddiodde’ anaf tra’n chwarae dros ei wlad ym mis Hydref.

Mae cyfarwyddwr rygbi’r Gleision Phil Davies wedi gwneud nifer o newidiadau ar gyfer y gêm gan roi cyfle i sawl un o’r chwaraewyr ifanc.

Owen Williams a Dafydd Hewitt fydd y canolwyr.  Daw Tom Williams i fewn ar yr asgell a Dan Fish fydd y cefnwr.  Simon Humbersone a Lewis Jones fydd yn dechrau yn safleoedd yr hanneri.

Y blaen asgellwr Ellis Jenkins fydd yn arwain y tîm a bydd Rory Watts-Jones a Luke Hamilton yn ymuno ag ef yn y rheng-ôl.  Bydd James Down yn dechrau yn yr ail reng.  Thomas Davies a Benoit Bourrust fydd y ddau brop a Rhys Williams yn fachwr.

‘‘Mae Cwpan yr LV yn gyfle i’r chwaraewyr ifanc ddangos beth allan nhw ei wneud ar y cae,” meddai Ellis Jenkins.

“Mae’n gyfle da iddyn nhw gan obeithio sicrhau gêm yn y gynghrair.  Yr ydym yn naturiol am ennill y gêm a gwneud argraff dda.  Mae Caerfaddon yn dîm da a bydd gêm anodd yn ein gwynebu.”

Tîm y Gleision

Olwyr –  Dan Fish, Tom Williams, Owen Williams, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj, Simon Humbersone a Lewis Jones.

Blaenwyr – Thomas Davies, Rhys Williams, Benoit Bourrust, Chris Dicomidis, James Down, Rory-Watts Jones, Ellis Jenkins (Capten) a Luke Hamilton.

Eilyddion – Kristian Dacey, Lewis Smout, Callum Lewis, Miles Normandale, Ben Roach, Lloyd Williams, Gavin Evans a Owen Jenkins.