Mae UEFA wedi cadarnhau’r trefniadau ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2016 fydd yn cychwyn yn yr Hydref – ac mae Cymru wedi cael eu gosod ym Mhot 4.
Mae Lloegr ym Mhot 1, Gweriniaeth Iwerddon ym Mhot 2, yr Alban ym Mhot 4 a Gogledd Iwerddon ym Mhot 5.
Ni fydd posibilrwydd y bydd Cymru’n wynebu’r Albanwyr am yr ail ymgyrch ragbrofol yn olynol, gan eu bod yn cychwyn yn yr un Pot.
Bydd y grwpiau rhagbrofol yn cael eu dewis fis nesaf yn Nice, gyda 53 tîm yn cael eu rhannu i naw grŵp wrth iddyn nhw gystadlu i fod yn un o’r 24 tîm fydd yn cyrraedd y bencampwriaeth derfynol yn Ffrainc yn 2016.
Mae’r timau wedi’u rhannu i mewn i chwe Phot, gan olygu y bydd wyth o’r grwpiau yn cynnwys chwe thîm ac un yn cynnwys pump.
Mae UEFA eisoes wedi cadarnhau y bydd dau dîm uchaf pob grŵp, yn ogystal ag un tîm yn y trydydd safle, yn ymuno â Ffrainc yn y twrnament terfynol, gyda’r wyth tîm arall sy’n drydydd yn chwarae gemau ail gyfle.
Mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid i Gymru orffen yn uwch nag o leiaf un o’r timau o Bot uwch na nhw i gael siawns o gyrraedd y rowndiau terfynol.
Wythnos o bêl-droed
Bydd calendr y gemau rhagbrofol hefyd yn newid o fis Medi ymlaen, pan gaiff y gemau cyntaf eu chwarae, gyda UEFA’n awyddus i arbrofi gyda’r syniad o ‘wythnos o bêl-droed.
Mae’n golygu y bydd gemau rhagbrofol pob ffenestr ryngwladol yn cael eu gwasgaru ar draws chwe diwrnod, o ddydd Iau i ddydd Mawrth, yn hytrach na dim ond cael eu chwarae ar nos Wener a nos Fawrth fel sydd ar hyn o bryd.
Mae’n golygu tebygolrwydd y bydd o leiaf rhai o gemau cystadleuol Cymru’n cael eu chwarae ar benwythnosau unwaith eto.
Ffrainc yn yr het – ond ddim yn cael pwyntiau
Am y tro cyntaf mae UEFA hefyd wedi penderfynu y bydd y wlad sy’n cynnal y twrnament, Ffrainc, yn cael eu hychwanegu’n awtomatig at y grŵp sydd dim ond â phum tîm.
Fydd y gemau sy’n cynnwys Ffrainc ddim yn cyfri tuag at unrhyw bwyntiau yn y grŵp – mae UEFA’n eu galw nhw’n ‘gemau cyfeillgar canolog’ – ond dyw hi ddim yn glir eto a fydd y gemau’n cyfri fel rhai rhagbrofol pan mae’n dod at ddetholiadau’r byd.
Mae UEFA wedi cyhoeddi y bydd pump o’r gwledydd – Lloegr, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen a’r Iseldiroedd – yn cael eu gosod yn un o’r grwpiau chwe thîm oherwydd rhesymau darlledu.
Cafwyd cadarnhad hefyd y byddai Azerbaijan ac Armenia yn cael eu cadw ar wahân wrth ddewis y grwpiau am resymau gwleidyddol, ac y byddai’r un peth yn wir am Sbaen a Gibraltar, fydd yn wynebu’u hymgyrch gyntaf.
Pot 1: Sbaen (deiliaid), Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Yr Eidal, Lloegr, Portiwgal, Groeg, Rwsia, Bosnia a Herzegofina
Pot 2: Wrcain, Croatia, Sweden, Denmarc, Swistir, Gwlad Belg, Gweriniaeth Tsiec, Hwngari, Gweriniaeth Iwerddon
Pot 3: Serbia, Twrci, Slofenia, Israel, Norwy, Slofacia, Rwmania, Awstria, Gwlad Pwyl
Pot 4: Montenegro, Armenia, Yr Alban, Ffindir, Latfia, CYMRU, Bwlgaria, Estonia, Belarws
Pot 5: Gwlad yr Ia, Gogledd Iwerddon, Albania, Lithwania, Moldova, Macedonia, Azerbaijan, Georgia, Cyprus
Pot 6: Lwcsembwrg, Casacstan, Liechtenstein, Ynysoedd y Faro, Malta, Andorra, San Marino, Gibraltar
Calendar gemau rhagbrofol Ewro 2016:
Gêm 1: 7–9 Medi 2014
Gêm 2: 9–11 Hydref 2014
Gêm 3: 12–14 Hydref 2014
Gêm 4: 14–16 Tachwedd 2014
Gêm 5: 27–29 Mawrth 2015
Gêm 6: 12–14 Mehefin 2015
Gêm 7: 3–5 Medi 2015
Gêm 8: 6–8 Medi 2015
Gêm 9: 8–10 Hydref 2015
Gêm 10: 11–13 Hydref 2015
Cymal cyntaf gemau ail gyfle: 12–14 Tachwedd 2015
Ail gymal gemau ail gyfle: 15–17 Tachwedd 2015
Pencampwriaeth derfynol (Ffrainc): 10 Mehefin – 10 Gorffennaf 2016