Mae golwg360 wedi bod yn rhoi sylw i rai o dimau chwaraeon lleol Cymru’r tymor yma, a’r wythnos hon CPD Dyffryn Nantlle, neu Nantlle Vale, sy’n cael y sylw wrth iddyn nhw baratoi i herio Gaerwen.
Proffil y Clwb
Enw: Clwb Pêl-droed Dyffryn Nantlle Vale
Cynghrair: Lock Stock Welsh Alliance (Adran Dau)
Lliwiau: Glas a gwyn
Cae: Maes Dulyn
Rheolwr: Craig Thomas
Is-reolwr: Dylan Roberts
Cymorth Cyntaf/Doctor Dŵr: James ‘Coch’ Jones
Ar ôl dilyn y trend pêl-droed cyfandirol a chymryd hoe dros y Nadolig, mae Tîm yr Wythnos golwg360 yn ôl i ddod a hynt a helynt timau lleol Cymru i chi.
Roedd 2013 yn flwyddyn weddol lwyddiannus i’r timau dan sylw – gyda phob un ohonynt un ai yn yr un safle, neu wedi codi yn eu cynghrair, pan wnaethon ni fwrw cipolwg yn ôl arnyn nhw cyn y Nadolig.
Ac i ddechrau 2014 mae tîm pêl-droed Dyffryn Nantlle, neu Nantlle Vale fel maen nhw hefyd yn adnabyddus, sydd wedi’u lleoli ym mhentref Penygroes yng Ngwynedd.
Mae’r clwb wedi bod mewn bodolaeth ers yr 1920au, gyda rhai o’i gyn-chwaraewyr yn cynnwys y reslwr proffesiynol Orig Williams.
Mae’r tîm bellach yn chwarae yn Ail Adran Cynghrair y Welsh Alliance, ond ar ôl tymor siomedig y llynedd pan orffennon nhw ar waelod y tabl, maen nhw bellach wedi troi cornel yn nhymor cyntaf Craig Thomas fel rheolwr.
Ar hyn o bryd mae’r clwb yn gorwedd yn ail yn eu cynghrair ar ôl hanner cyntaf llwyddiannus iawn i’r tymor, ac wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Blaenau Amt a Gaerwen.
Rheolwr newydd yn cael blas arni
Ers ymuno â’r clwb mae Craig Thomas wedi mynd ati i drawsnewid y garfan, ac mae’n teimlo fod y tîm bellach yn barod i herio unrhyw un.
“Hon ydy fy nhymor cyntaf fel rheolwr y Vale, ar ôl dau dymor llewyrchus efo clwb Llanllyfni,” esboniodd Craig Thomas. “Hyd yn hyn mae Dylan [yr is-reolwr] a fi wedi mwynhau’r sialens o gael carfan newydd o hogiau at ei gilydd ac yn gweithio’n galad er mwyn codi’r clwb yn ôl tuag at uchelfannau’r gynghrair.
“Mae’r tymor yn mynd yn dda hyd yn hyn, rydan ni wedi cychwyn y flwyddyn newydd yn ail yn y gynghrair sydd yn glod mawr i’r garfan newydd, a’r targed erbyn diwedd y tymor ydi i drio gorffan mor uchel ag sy’n bosib.”
Gaerwen gyfarwydd
Bydd Dyffryn Nantlle’n herio Gaerwen eto’r penwythnos yma yn eu gêm gartref gyntaf ers 24 Tachwedd, ac maen nhw bellach yn hen gyfarwydd â’r gwrthwynebwyr o Fôn.
“Rydyn ni wedi chwarae Gaerwen ddwywaith yn barod – curo 5-4 ar ôl amser ychwanegol mewn gêm gwpan agos iawn nôl yn yr hydref a churo nhw 3-1 yn y gynghrair diwedd mis Rhagfyr,” meddai Craig Thomas.
“Felly rydan ni’n gwybod na fydd hi’n hawdd, ond dwi’n ffyddiog yng ngallu’r chwaraewyr i gipio’r tri phwynt i ni.”
Ac mae gan y rheolwr glod i’r tîm sydd â nifer o wynebau newydd y tymor hwn – heblaw am ambell un efallai!
“Mae’r criw o hogia yma yn rhai da i’w rheoli, chwarae teg,” meddai Craig Thomas. “Mae yna gymysgedd dda o brofiad ac ieuenctid, ag un hen ddyn – Irfon Hughes!
“Mae pawb yn ymdrechu’n galed, er bod un neu ddau yn fwy o sialens na’i gilydd – ma’ Simon ‘Josie’ Kay yn un sydd ddim yn licio ymarfer, ac mae Adam Jackson yn un sy’n licio cwyno o hyd!”
Carfan Dyffryn Nantlle:
Golwyr – Ceirion Hall, Ryan Foulkes, Meilir Huws
Amddiffynwyr – Ellis Jones, Irfon Hughes, Dylan Williams, Peter Bridges, Michael Jones, Rhys Davies, Gethin Williams;
Canol Cae – Simon Kay, Jason Hughes, Adam Jackson, Gerwyn Williams, Declyn Williams, Aaron Griffiths;
Ymosodwyr – James Evans, Aled Llyr Jones, Ian Pleming, Gerad Laidlaw, Aaron Hughes.