Sam Warburton
Mae Sam Warburton wedi dweud y bydd Cymru yn cymryd un gêm ar y tro yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe allai Warburton arwain Cymru i dair bencampwriaeth o’r bron y tymor hwn.  Er mae Cymru yw’r ffefrynau i ennill y bencampwriaeth, mae’r llyfrau hanes yn dangos taw Ffrainc sydd wedi ennill y bencampwriaeth ar bedwar achlysur yn y tymor yn syth ar ôl un o deithiau’r Llewod.

Mae Warburton yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth a fydd yn dechrau ar 1 Chwefror gyda gêm yng Nghaerdydd yn erbyn yr Eidal, a gêm yn Nulyn wythnos wedyn.

‘‘Er bod pobl yn dweud mae ni yw’r ffefrynau yr ydym yn gwybod pa mor anodd fydd hi i ennill y gystadleuaeth,’’ meddai Warburton.

Er bod Cymru wedi cael llwyddiant yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad, siomedig ar y cyfan fu canlyniadau gemau’r Hydref eleni eto.

Mae Warburton yn brwydro’n galed i fod yn barod ar gyfer y gêm yn erbyn yr Eidal gan nad yw wedi chwarae ers anafu ei ysgwydd yn y gêm a gollwyd yn erbyn Awstralia ar 30 Tachwedd.

‘‘Dywedodd yr arbenigwr wrthyf y byddwn yn barod i ddechrau chwarae tua diwedd Ionawr.  Byddwn yn trafod y sefyllfa yr wythnos nesaf ac yn gwneud y penderfyniad a fydd orau er lles y tîm.  Yr ydym yn lwcus bod gennym flaen asgellwr ochr agored arbennig o dda yn Justin Tipuric,’’ ychwanegodd Warburton.