Ryan Jones
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau fod Ryan Jones wedi gadael y garfan ryngwladol oherwydd anaf i linyn y gar, gyda’r blaenwr o bosib yn wynebu methu holl Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Derbyniodd y chwaraewr rheng ôl yr anaf wrth i’r Gweilch herio Leinster nos Wener, ac mae Cymru nawr yn wynebu gweddill y bencampwriaeth heb y cyn-gapten 32 oed.

Cafodd y bachwr Richard Hibbard ei anafu yn yr un gêm, ac nid yw’n glir eto a fydd yn holliach ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn yr Eidal ar 1 Chwefror.

Mae Cymru hefyd yn poeni am y clo Ian Evans, sy’n wynebu panel disgyblu ar ôl cael ei anfon o’r cae yn erbyn Leinster, ac o bosib yn wynebu gwaharddiad am ran o’r bencampwriaeth.

Mae James King, 23, o’r Ospreys, a enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn Japan y llynedd, wedi ei alw i mewn i’r garfan yn  lle Ryan Jones.

Mae dau chwaraewr arall hefyd wedi cael eu galw i hyfforddi gyda thîm Cymru o heddiw ymlaen – Sam Parry o Ddreigiau Casnewydd Gwent a Jake Ball o’r Scarlets.