Munster 16–10 Scarlets

Caniatawyd cais dadleuol ar Barc Musgrave nos Sadwrn wrth i Munster guro’r Sgarlets gyda symudiad olaf y gêm yn y RaboDirect Pro12.

Yn dilyn ymdrech ddewr, roedd Bois y Sosban bwynt ar y blaen gyda’r cloc yn goch pan fanteisiodd Munster ar ddau ddyn o fantais i sgorio cais hwyr. Ar yr ail chwarae roedd hi’n ymddangos fod y bêl wedi ei cholli ymlaen yn y ryc olaf a arweiniodd at y cais hwnnw, ond wedi holi barn ei ddyfarnwr teledu fe benderfynodd Nigel Owens ganiatáu’r sgôr dyngedfennol.

Cyfartal oedd hi yn dilyn hanner cyntaf agos, gyda’r maswyr, Aled Thomas a JJ Hanrahan, ill dau yn llwyddo gydag un gic gosb allan o ddwy yng ngwynt Corc.

Os oedd yr hanner cyntaf yn eithaf cyfartal, y Scarlets heb oes oedd y tîm gorau ar ddechrau’r ail gyfnod ac roeddynt ar y blaen yn haeddianol yn dilyn cais gwych.  John Barclay oedd y dyn i dirio ond gwnaethpwyd y gwaith caled i gyd gan Kristian Phillips ac Aled Thomas gyda dau fylchiad da mewn symudiad a ddechreuodd yn ddwfn yn hanner y Cymry. 3-10 yn dilyn trosiad Thomas.

Daeth Munster fwyfwy i’r gêm yn raddol wrth i’r hanner fynd yn ei flaen ac roeddynt o fewn pwynt gyda deg munud i fynd diolch i ddwy gic gosb gan Hanrahan. Dyna pryd y cafodd y maswr gyfle i roi ei dîm ar y blaen gyda phedwaredd ond methodd.

Bu rhaid i’r Scarlets orffen y gêm gyda thri dyn ar ddeg yn dilyn dau gerdyn melyn o boced Nigel Owens, un hallt iawn i Rob Evans am atal neidiwr yn ddamweiniol yn y lein ac un haeddianol i Mike Poole am dacl beryglus.

Daliodd amddiffyn y Scarlets yn ddewr serch hynny, tan yr eiliadau olaf hynny yw pan ddaeth cic letraws Hanrahan o hyd i Ronan O’Mahony yn gwbl rydd ar yr asgell i ennill y gêm.

Ymateb

Doedd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby, yn amlwg ddim yn ddyn hapus pan holwyd ef am ambell un o’r penderfyniadau ar ddiwedd y gêm, ond roedd yn llawn clôd i’w dîm am eu hymdrech:

“Ro’n i’n meddwl fod y chwaraewyr yn rhagorol heno ac allwn i heb fod wedi gallu gofyn mwy ganddyn nhw. Roedd yr ymdrech yn glir i’w gweld ond unwaith eto, chawsom ni ddim mo’n gwobrwyo am yr holl waith caled.”

Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn y seithfed safle yn nhabl y Pro12 wrth iddynt golli cyfle i godi dros Gaeredin i’r chweched safle.

.

Munster

Cais: Ronan O’Mahony 80’

Trosiad: JJ Hanrahan 80’

Ciciau Cosb: JJ Hanrahan 23’, 46’, 57’

.

Scarlets

Cais: JohnBarclay 42’

Trosiad: Aled Thomas 43’

Cic Gosb: Aled Thomas 14’

Cardiau Melyn: Rob Evans 74’, Mike Poole 77’