Connacht 14–11 Dreigiau

Enillodd Dan Parks y gêm i Connacht gyda gôl adlam hwyr ar Faes Chwarae Galway nos Sadwrn.

Roedd y Dreigiau yn anelu am gêm gyfartal yn erbyn y Gwyddelod yn y RaboDirect Pro12 cyn i gyn chwaraewr y Gleision drosi gôl adlam i ennill y gêm i’w dîm gyda chic olaf y gêm.

Cafodd y Dreigiau ddechrau da gyda chais i’r cefnwr, Dan Evans, ac roeddynt ym mhellach ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn cic gosb o droed Jason Tovey.

Caeodd Parks y bwlch yn ôl i bump gyda phwyntiau cyntaf y Gwyddelod cyn yr egwyl cyn ei gau ymhellach gydag ail gynnig llwyddiannus yn gynnar wedi’r egwyl.

Llwyddodd Tovey eto wedi hynny i roi pum pwynt rhwng y ddau dîm drachefn ond roedd hi’n ymddangos ei bod hi am orffen yn gyfartal pan sgoriodd eilydd ganolwr y Gwyddelod, Fionn Carr, gais (heb drosiad) bum munud o’r diwedd.

Ond roedd mwy o ddrama i ddod wrth i’r Albanwr, Parks, ennill y gêm gyda’r gic olaf a gorfodi’r Dreigiau i ddychwelyd adref gyda phwynt bonws yn unig.

Mae’r Dreigiau yn aros yn wythfed yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y canlyniad, ddau bwynt o flaen y Gleision cyn iddynt eu croesawu i Rodney Parade ar Ŵyl San Steffan.

.

Connacht

Cais: Fionn Carr 75’

Ciciau Cosb: Dan Parks 33’, 44’

Gôl Adlam: Dan Parks 80’

.

Dreigiau

Cais: Dan Evans 8’

Ciciau Cosb:, Jason Tovey 16’, 51’

Cerdyn Melyn: Owen A Evans 61’