Jamie Roberts
Mae canolwr Cymru, Jamie Roberts, wedi dweud ei fod bron yn ôl ar ei orau yn dilyn ei berfformiad yn erbyn yr Eidal dros y penwythnos.

Fe dderbyniodd chwaraewr y Gleision glod gan hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, am ei redeg pwerus yn y Stadio Flaminio.

Dyma oedd perfformiad gorau Roberts ers dychwelyd o anaf i’w arddwrn a’i cadwodd allan o gyfres ryngwladol yr hydref.

“Dydw i ddim wedi cario’r bêl cymaint â hynny mewn gêm ers cyfnod hir,” meddai Jamie Roberts.

“Roeddwn i’n weddol siomedig gyda fy mherfformiad yn erbyn Lloegr. Doeddwn i ddim yn ddigon gweithgar a heb gael gafael ar y bêl.

“Croesi’r llinell fantais yw fy nod ac fe lwyddais i wneud hynny sawl gwaith yn erbyn yr Eidal.  Rwy’n hoffi cario’r bêl ac rwy’n credu fy mod i bron a bod yn ôl ar fy ngorau.”

Disgyblaeth

Ond dywedodd Jamie Roberts ei fod yn pryderu am ddiffyg disgyblaeth Cymru ar ôl iddynt gael eu cosbi gyda phymtheg cic gosb yn erbyn yr Eidal.

“Roedden ni’n hapus gyda’r perfformiad ond roedd ein disgyblaeth yn wael ac roedd hynny’n siomedig,” meddai.

“Roedden ni wedi gadael i’r Eidal gael gormod o giciau cosb ac roedd hynny wedi ein rhoi ni dan bwysau.

“Fe allai’r diffyg disgyblaeth fod wedi bod yn gostus i ni ac mae’n rhaid i ni weithio ar hynny.”