Eifion Lewis Roberts
Mae disgwyl i brop Sale, Eifion Lewis-Roberts, adael y clwb i ymuno gyda Toulon yn Ffrainc.

Ym mis Mai’r llynedd fe arwyddodd Eifion Lewis-Roberts gytundeb newydd gyda Sale i aros gyda’r clwb tan 2013.

Ond mae’r Cymro wedi bod allan o’r gêm ers mis Medi yn dilyn llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Fe fydd y prop yn ail ymuno gyda’i gyn-hyfforddwr yn Sale, Philippe St Andre, pe bai’n symud i’r cyfandir.

Eifion Lewis-Roberts yw’r diweddaraf o gyfres o chwaraewyr o Gymru sy’n bwriadu ymuno gyda chlybiau yn Ffrainc.

Mae James Hook a Lee Byrne eisoes wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymuno gyda chlybiau Ffrengig tymor nesaf.

Fe enillodd Lewis-Roberts ei unig gap dros Gymru yn erbyn Canada yn 2008.