Gweilch 16–28 Glasgow
Glasgow aeth â hi ar y Liberty nos Wener yn y frwydr tua brig y RaboDirect Pro12.
Dechreuodd y Gweilch y noson yn yr ail safle, ddau bwynt o flaen yr Albanwyr, ond er i’r Cymry fod ar y blaen am ran helaeth o’r gêm fe frwydrodd yr ymwelwyr yn ôl i’w hennill hi gyda thri chais yn yr hanner awr olaf.
Hanner Cyntaf
Glasgow a gafodd y dechrau gorau ac roeddynt yn llawn haeddu bod ar y blaen wedi chwarter awr diolch i gic gosb gynnar Ruaridh Jackson.
Yna daeth cais i’r Gweilch yn erbyn llif y chwarae, a chais da oedd o hefyd. Torrodd Tom Isaacs y llinell fantais yn dilyn pas hir Tito Tebaldi ac roedd yr asgellwr, Jeff Hassler, wrth law i gwblhau’r symudiad. 7-3 yn dilyn trosiad Sam Davies.
Caeodd Jackson y bwlch i bwynt yn fuan wedyn gyda’i ail gic gosb ond ymatebodd Davies gyda gôl adlam i ddechrau, ac yna cic gosb cyn yr egwyl – 13-6 y sgôr ar hanner amser.
Ail Hanner
Dechreuodd y Gweilch yr ail gyfnod yn dda ac roeddynt yn ymddangos yn gyfforddus iawn wedi i Davies ymestyn y fantais i ddeg pwynt gyda chic gosb arall.
Ond mae momentwm yn beth holl bwysig mewn gêm o rygbi ac fe newidiodd hwnnw’n sydyn toc cyn yr awr.
Roedd y Gweilch mewn safle peryglus yng nghysgod pyst Glasgow ond fe gollwyd y bêl a gwrthymosododd yr ymwelwyr gan sgorio cais hyd-y-cae; Sean Lamont yn bylchu i ddechrau a Chris Cusiter yn tirio.
Er i Jackson fethu’r trosiad roedd Glasgow o fewn dau bwynt yn fuan wedyn pan lwyddodd Stuart Hogg gyda chic gosb o bellter ac roedd ugain munud ar ôl o hyd.
Anfonwyd bachwr y Gweilch i’r gell gosb chwarter awr o’r diwedd yn dilyn sgrym gref gan Glasgow a thra yr oedd yno fe aeth yr Albanwyr ar y blaen diolch i gais DTH van der Merwe a throsiad Jackson.
Roedd digon o amser i’r Gweilch daro’n ôl ond digon di fflach oedd eu hymdrechion mewn gwirionedd ac yn wir, Glasgow a gafodd y gair olaf wrth i’r eilydd, Ryan Wilson, hyrddio’i hun drosodd yn symudiad olaf y gêm.
Mae’r canlyniad yn codi Glasgow dros y Gweilch yn nhabl y Pro12, gyda’r rhanbarth o Gymru bellach yn drydydd.
Ymateb
Capten y Gweilch ar y noson, Duncan Jones:
“Roeddem yn euog o ddiffyg cywirdeb ar adegau allweddol yn yr ail hanner heno. Roedd gennym feddiant da yn eu hardal 22 medr nhw ond fe gollon ni’r bêl ac fe sgorion nhw yn y pen arall.”
“Mae hi’n wers galed i ni. Pob tro mae rhywun yn gwisgo crys y Gweilch, beth bynnag eu hoed a’u profiad, rydym yn dod allan i ennill, ond wnaethom ni mo hynny heno.”
.
Gweilch
Cais: Jeff Hassler 16’
Trosiad: Sam Davies 17’
Ciciau Cosb: Sam Davies 34’, 54’
Gôl Adlam: Sam Davies 25’
Cerdyn Melyn: Scott Baldwin 65’
.
Glasgow
Ceisiau: Chris Cusiter 58’, DTH van der Merwe 68’, Ryan Wilson 80’
Trosiadau: Ruaridh Jackson 69’, 80’
Ciciau Cosb: Ruaridh Jackson 3’, 23’, Stuart Hogg 61’
.
Torf: 5,679