Dreigiau Casnewydd Gwent 14–18 Munster

Y maswr, Ian Keatley, sgoriodd bwyntiau Munster i gyd wrth i’r Gwyddelod drechu’r Dreigiau yn y RaboDirect Pro12 ar Rodney Parade nos Wener.

Roedd pethau’n edrych yn addawol i’r tîm cartref pan roddodd gôl adlam Jason Tovey hwy ar y blaen ddeg munud o’r diwedd, ond tarodd Munster a Keatley yn ôl gyda dwy gic gosb i ennill y gêm yn y munudau olaf.

Cyfartal oedd hi wrth i hanner amser agosáu wedi i Tovey a Keatley gyfnewid un gic gosb yr un yn y deugain munud agoriadol, ond aeth y Cymry i mewn ar yr egwyl gyda mantais fain gan i Tovey ychwanegu tri phwynt arall gyda chic olaf yr hanner.

Daeth unig gais y gêm yn gynnar yn yr ail hanner pan ledwyd y bêl yn gyflym o’r chwith i’r dde i greu cais yn y gornel i’r asgellwr, Matthew Pewtner.

Wyth pwynt o fantais i’r Dreigiau felly ar ddechrau’r ail hanner ond crafodd Munster ar y blaen gyda thair cic gosb o droed Keatley cyn i gôl adlam Tovey roi’r Dreigiau yn ôl ar y blaen ddeg munud o’r diwedd.

Ond methodd y tîm cartref ddal eu gafael a chawsant eu cosbi am eu diffyg disgyblaeth wrth i Keatley ennill y gêm i’w dîm gyda’i bumed a’i chweched gic gosb lwyddiannus yn y munudau olaf.

Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn nhabl y Pro12, gyda’r Dreigiau yn aros yn seithfed a Munster yn parhau ar y brig.

.

Dreigiau

Cais: Matthew Pewtner 43’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 11’, 40’

Gôl Adlam: Jason Tovey 70’

Cerdyn Melyn: Cory Hill 62’

.

Munster

Ciciau Cosb: Ian Keatley 25’, 52’, 61’, 67’, 73, 76’

Cerdyn Melyn: Keith Earls 56’