Kerin Lake - unig gais Cymru
Yr Eidal 12 Cymru 8

Fe gollodd merched Cymru i’r Eidal am yr ail flwyddyn yn olynol, er gwaetha’ cael llawer o’r bêl ac edrych yn beryglus.

Ond roedd amddiffyn tîm yr Eidal yn rhy gry’ wrth i Gymru bwyso’n galed trwy gydol yr ail hanner a chael cais.

Cymru oedd wedi sgorio gynta’ gyda chic gosb gan Amiee Young, ond fe fethodd hi giciau eraill yn yr hanner cynta’ wrth i Gymru fygwth.

Ond yr Eidal a gafodd y pwyntiau, gyda dau gais i’w rhoi ar y blaen o 12-3 ar yr egwyl.

Roedd yna gais i Gymru yn yr ail hanner, trwy’r asgellwraig 20 oed Kerin Lake o Gastell Nedd, ond fe orffennodd yr Eidal yn gry’ iawn gan bwyso am y deng munud ola’.