Justin Tipuric
Justin Tipuric oedd seren y gêm yn y ddarbi Gymreig neithiwr wrth i’r Gweilch chwalu’r Dreigiau.

Er i’r Dreigiau ddechrau’n dda gyda chais gynnar i’r asgellwr Tom Prydie, roedd y Gweilch yn rhy gryf i ddynion Gwent.

Sgoriodd Tipuric ddau gais i ychwanegu at un i Scott Baldwin ac un cais gosb i roi pwynt bonws i’r tîm cartref.

Er ei fod yn chwarae fel cefnwr, ciciodd Dan Biggar 17 o bwyntiau ond daeth cais cysur hwyr i’r Dreigiau diolch i Francisco Chaparro.

Roedd toriad hir yn y gêm oherwydd anaf cas i wddf i wythwr y Dreigiau Toby Faletau – newyddion fydd yn peri gofid i Warren Gatland a Chymru.