Mae James Hook wedi'i enwi yng ngharfan Cymru
Mae Warren Gatland wedi enwi’i garfan ar gyfer gemau rhyngwladol Cymru yn yr Hydref, ac mae seren Perpignan James Hook yn dychwelyd er gwaethaf honiadau nad oedd am gael ei gynnwys.

Mae’r garfan yn cynnwys nifer o wynebau newydd sydd eto i ennill cap dros Gymru, gan gynnwys y mewnwr Rhodri Williams, yr asgellwr Eli Walker a’r canolwr Cory Allen.

Mae Rhys Priestland, Luke Charteris ac Aaron Jarvis yn dychwelyd i’r garfan wedi anafiadau, ac mae Rhys Patchell ac Owen Williams, a chwaraeodd i Gymru’n erbyn Siapan dros yr haf, hefyd wedi’u henwi.

Ond nid yw Jamie Roberts, Matthew Rees nag Alex Cuthbert wedi’u henwi oherwydd anafiadau, er bod posibilrwydd y gall Roberts a Cuthbert ymuno’n nes ymlaen yn y gyfres os ydyn nhw’n holliach.

Anafodd Cuthbert ei ffêr wrth i’r Gleision drechu Toulon dros y penwythnos.

Ac mae enw Mike Phillips wedi’i gynnwys er gwaetha’r ffaith ei fod yn wynebu bwrdd rheoli Bayonne heddiw ar gyhuddiad o gamymddwyn.

Hook i mewn

Er gwaethaf sôn yn gynharach na fyddai yn y garfan, mae James Hook wedi’i enwi.

Dim ond un gêm mae Hook, sydd â 70 o gapiau, wedi dechrau dros Gymru ers 2011, ac fe gafodd ei adael allan o daith y Llewod i Awstralia a thaith Cymru i Siapan dros yr haf.

Mae wedi mynegi rhwystredigaeth a siom yn y gorffennol nad oedd lle i’w weld iddo yng nghynlluniau Gatland, er ei fod yn chwarae’n dda i’w glwb ar hyn o bryd.

Bydd Cymru’n herio De Affrig yn y gêm agoriadol ar y 9 Tachwedd, cyn wynebu’r Ariannin ar y 16eg, Tonga ar yr 22ain, a chloi gyda gêm yn erbyn Awstralia ar y 30ain.

Cwpan y Byd ar y gorwel

Pwysleisiodd Gatland fod angen rhoi profiad rhyngwladol ac adeiladu dyfnder y garfan gyda Chwpan y Byd lai na dwy flynedd i ffwrdd.

“Dy ni’n edrych i brofi ein hunain yn erbyn y gorau yn y byd ond hefyd i adeiladu dyfnder yn y garfan wrth edrych i’r dyfodol,” meddai Gatland.

“Mae gennym gêm enfawr yn erbyn De Affrig i ddechrau, ac mae gemau diweddar rhyngom ni wedi bod yn agos ac yn gorfforol.

“Bydd y bedair gêm yn brofion anodd ond dy ni’n edrych ymlaen at y sialens.”

Fe fydd Cymru’n wynebu gemau’r Hydref yn llawn hyder wedi iddyn nhw ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, gan faeddu Lloegr 30-3 yn y gêm olaf, yn ogystal â chyfrannu nifer helaeth o garfan y Llewod a drechodd Awstralia dros yr haf.

Ond fe fyddan nhw’n gobeithio gwneud yn well na’r hydref diwethaf, pan gollon nhw bob un o’u pedair gêm.

Bydd Cymru’n wynebu hyfforddwr newydd yn ystod yr hydref ar ôl i reolwr yr Ariannin, Santiago Phelan, ymddiswyddo ddoe yn dilyn canlyniadau gwael yn y Bencampwriaeth Rygbi’r flwyddyn yma.

Carfan Cymru

Blaenwyr: Scott Andrews (Gleision Caerdydd), Adam Jones (Y Gweilch), Aaron Jarvis (Y Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), Ryan Bevington (Y Gweilch), Richard Hibbard (Y Gweilch), Ken Owens (Sgarlets), Emyr Phillips (Sgarlets), Alun Wyn Jones (Y Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Ian Evans (Y Gweilch), Bradley Davies (Gleision Caerdydd), Andrew Coombs (Dreigiau), Ryan Jones (Y Gweilch), Justin Tipuric (Y Gweilch), Sam Warburton (Capten – Gleision Caerdydd), Toby Faletau (Dreigiau), Dan Lydiate (Racing Metro)

Cefnwyr: Rhodri Williams (Sgarlets), Mike Phillips (Bayonne), Lloyd Williams (Gleision Caerdydd), Dan Biggar (Y Gweilch), Rhys Patchell (Gleision Caerdydd), Rhys Priestland (Sgarlets), Jon Davies (Sgarlets), Ashley Beck (Y Gweilch), Scott Williams (Sgarlets), Cory Allen (Gleision Caerdydd), Owen Williams (Gleision Caerdydd), James Hook (Perpignan), George North (Northampton Saints), Eli Walker (Y Gweilch), Leigh Halfpenny (Gleision Caerdydd), Liam Williams (Sgarlets).