Roedd dau gais i'r bytholwyrdd Matthew Nuthall
Enillodd Tîm yr Wythnos Golwg360, Pontypridd, yn gyfforddus o 13-53 yn erbyn Academials Caeredin i esgyn i frig y tabl wedi gêm gyntaf eu hymgyrch yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon.

Cafodd y cannoedd o gefnogwyr o dde Cymru a deithiodd i brifddinas yr Alban i wylio’u tîm mo’u siomi wrth i Ponty sgorio wyth cais.

Dechrau chwim

Cafodd yr ymwelwyr ddechreuad gwych gyda dau gais yn y pum munud cyntaf, gan yr asgellwr Matthew Nuthall a’r maswr Simon Humberstone, i roi mantais o 12-0.

Tarodd Caeredin yn ôl gyda chic gosb ac yna cais gan y prop Cringle i gau’r bwlch, ond wedi cic gosb gan Humberstone, cafwyd cais arall i Ponty ar ôl wyth ar hugain munud.

Y clo Craig Locke orffennodd y symudiad wedi gwrthymosodiad gan Ponty, wrth iddo groesi yn y gornel.

Gwelwyd cerdyn melyn i’r canolwr Aled Summerhill, cyn i’r blaenasgellwr Jake Thomas sgorio un arall i’r ymwelwyr wedi gwaith da gan y canolwr Gavin Dacey, a Humberstone yn trosi i roi Ponty 8-27 ar y blaen ar yr egwyl.

Ail hanner cyfforddus

Dechreuodd yr ail hanner yn yr un modd a’r cyntaf, gyda Dacey’n dilyn cic a chwrs i sgorio cais ei hun, cyn i Blair lwyddo i dirio i Gaeredin.

Ond doedd Pontypridd heb orffen o bell ffordd, wrth i Nuthall groesi eto yn y gornel a Humberstone yn trosi o’r ystlys.

Cafwyd ceisiau pellach gydag ail gais i Thomas, ac un i Lloyd Williams, gyda’r ddau’n cael eu trosi gan yr eilydd Dai Flanagan i selio buddugoliaeth swmpus i Ponty.

“Perfformiad gwych”

Gyda chymaint o gefnogwyr wedi teithio i’r Alban i’w gwylio’r penwythnos yma, dywedodd y rheolwr Dale McIntosh ei fod yn falch iawn o ganlyniad Pontypridd.

“Dwi mor falch o’r chwaraewyr ac am yr hyn lwyddon nhw i wneud heddiw,” meddai McIntosh. “Roedd e’n berfformiad gwych, ac fe ddangoson ni o’r cychwyn ein bod ni am greu argraff ar y gystadleuaeth yma.”

Ac roedd y capten Chris Dicomidis yn llawn clod am y cefnogwyr fu’n llawn llais drwy gydol y gêm.

“Roedd y gefnogaeth yma yng Nghaeredin yn wych ac fe fyddwn ni angen yr un gefnogaeth penwythnos nesa’” meddai.

“Roedd hi’n wych dechrau’r gystadleuaeth gyda buddugoliaeth pwynt bonws, ac mae gennym ni gêm fawr yn erbyn Cymry Llundain yr wythnos nesa’.”

Colli oedd hanes gwrthwynebwyr nesaf Pontypridd dros y penwythnos, wrth i Albanwyr Llundain drechu Cymry Llundain 26-32 yng ngêm arall y grŵp.

Pontypridd:

15.Geraint Walsh, 14.Owen Jenkins, 13.Gavin Dacey, 12.Dafydd Lockyer (Aled Summerhill), 11.Matthew Nuthall, 10.Simon Humberstone (Dai Flanagan), 9.Tom Williams (Lloyd Williams)

1.James Howe, 2.Rhys Williams (Huw Dowden), 3.Keiron Jenkins (Chris Phillips), 4.Craig Locke (Jordan Sieniawski), 5.Chris Dicomidis (c), 6.Jake Thomas, 7.Thomas Young, 8.Dan Godfrey (Luke Crocker)

Sgorwyr:

Ceisiau: Nuthall (2), Humberstone, Locke, Thomas (2), Dacey, L Williams

Trosiad: Humberstone (3), Flanagan (2)

Cic gosb: Humberstone

Gallwch ddilyn hanes Pontypridd a chanlyniadau’r tîm am weddill y tymor ar wefan y clwb, ac fe fydd Golwg360 yn cadw llygad allan ar eu hymdrechion hefyd! #timyrwythnos