Sebastian Vettel (CCA 2.0)
Gohebydd F1 Golwg360, Phil Kynaston, sy’n bwrw golwg nôl ar gymal diweddaraf pencampwriaeth y byd yn Siapan.
Mae pencampwriaeth y byd F1 o fewn cyrraedd Sebastian Vettel wedi buddugoliaeth iddo yn Siapan.
Gorffennodd Vettel yn gyntaf i ymestyn y bwlch dros Fernando Alonso i 90 pwynt gydag ond 100 bellach o fewn cyrraedd y Sbaenwr.
Cychwynnodd y penwythnos ar nodyn trist gyda’r newyddion ddydd Gwener fod cyn-yrrwr profi Marussia, Maria di Villota, wedi ei chanfod yn farw yn ei hystafell gwesty yn Seville, lle’r oedd hi am lansio ei hunangofiant.
Collodd di Villota ei llygad dde mewn damwain wrth brofi car Marussia yn swydd Caergrawnt llynedd, ac yn ôl adroddiadau roedd ei marwolaeth wedi’i achosi gan anafiadau niwrolegol o ganlyniad i’r ddamwain.
Y rownd ragbrofol
Tanau oedd prif stori’r sesiwn gyntaf wrth i danwydd ddianc a dechrau fflamio ar Sauber Esteban Gutierrez. Yn ogystal, cafodd y sesiwn ei stopio er mwyn i’r marsialiaid allu casglu car Jean-Eric Vergne ar ôl i’w gar yntau fynd ar dân ar y trac.
Wrth i Vettel ddioddef problemau gyda’i system KERS (system adennill egni cinetig), fe orffennodd o’r sesiwn yn yr ail safle gyda’i gyd-yrrwr Mark Webber yn sicrhau rhes flaen gyfan Red Bull gyda’r amser cyflymaf.
Cychwyn gwyllt i’r ras
Roedd yn ddechrau gwyllt i’r ras gyda Romain Grosjean, sy’n adnabyddus am achosi damweiniau ar y cychwyn, yn codi o drydydd i arwain y ras erbyn y gornel gyntaf.
Roedd Vettel yn lwcus i osgoi difrod i’w aden flaen wrth ddadlau gyda Lewis Hamilton; doedd y Prydeiniwr ddim mor ffodus wrth iddo dyllu ei deiar a gwneud difrod i’r car ar ei ffordd yn ôl am atgyweiriadau, a arweiniodd at ei ymddeoliad ar lap 7. Dyma roi diwedd swyddogol ar ei obeithion o am y bencampwriaeth.
Ymhellach i lawr y pac gwrthdarodd Giedo van der Garde a Jules Bianchi gyda’r ddau’n gorffen yn y rhwystrau.
I waethygu diwrnod Mercedes, cafodd Nico Rosberg gosb gyrru trwy’r ‘pits’ am i’w dîm ei rhyddhau i mewn i lwybr Sergio Perez mewn pitstop.
Cael a chael oedd hi iddyn nhw beidio â tharo’i gilydd (peryg iawn yn y ‘pits’ gyda chymaint o bobl yno) ond eto mae’n ddadleuol a ddylai’r gyrrwr gymryd cosb am gamgymeriad ei griw ‘pit’.
Arhosodd trefn y tri cyntaf yr un fath tan lap 25 pan aeth Mark Webber i’r pit. Roedd hi’n amlwg felly ei fod o ar strategaeth 3-stop tra bod ei wrthwynebwyr ar strategaethau 2-stop. Byddai’n rhaid i Webber wneud yn fawr o gael set ychwanegol o deiars ffres i wneud i fyny am y trydydd ymweliad â’r ‘pits’.
Arhosodd Grosjean ar y blaen tan ei stop olaf, ond gan i Vettel stopio 8 lap yn ddiweddarach nag o, llwyddodd i basio’r Ffrancwr yn hawdd ar deiars cymaint mwy newydd ar ôl ailymuno â’r trac dim ond 2.1 eiliad y tu ôl iddo.
Costiodd methiant Webber i basio Grosjean â’r un rhwyddineb y siawns iddo herio Vettel am y fuddugoliaeth.
Byddai Webber wedyn yn cwestiynu’r penderfyniad i stopio deirgwaith mewn ras lle’r oedd strategaeth wedi bod yn hollbwysig.
Canlyniadau
Cymerodd Vettel y 35ain buddugoliaeth o’i yrfa a’i 5ed yn olynol, er i’r ras brofi nad yw buddugoliaeth gan Vettel o reidrwydd yn golygu ras ddiflas ar flaen y pac.
Ond gan i Alonso orffen yn 4ydd ni chafodd yr Almaenwr ei goroni’n bencampwr y tro yma. Gyda’r 12 pwynt gipiodd y Sbaenwr am y safle hwnnw, mae o wedi pasio record Michael Schumacher am y cyfanswm uchaf o bwyntiau erioed yn F1 (er, wedi dweud hynny, ers 2010 mae buddugoliaeth werth 25 pwynt o’i gymharu â 10 am y rhan fwyaf o gyfnod F1).
Roedd trydydd safle Grosjean yn arwyddocaol gan mai hwn oedd dim ond ei ail bodiwm heb i’w gyd-yrrwr Raikkonen fod yn y tri uchaf hefyd.
Arwydd posib fod cefnogaeth y tîm yn troi tua Romain, a’i fod o’n fodlon iawn â’r syniad o fod yn arweinydd y tîm gyda Raikkonen yn symud yn ôl i Ferrari tymor nesaf.
Parhaodd adfywiad Sauber wrth i Hulkenberg orffen yn 6ed (ac yntau’n debyg o arwyddo cytundeb gymryd sedd Raikkonen yn nhîm Lotus at 2014 yn yr wythnosau nesaf), a Gutierrez yn cael penwythnos cryf yn dilyn y tân ddydd Sadwrn i gymryd pwyntiau cyntaf ei yrfa yn 7fed.
Y tebygrwydd yw y bydd Vettel yn cadarnhau ei bedwaredd pencampwriaeth yn y ras nesaf yn India, gan fod gorffen yn 4ydd yn ddigon iddo.