Malky Mackay
Bydd rheolwr clwb pêl-droed Caerdydd, Malky Mackay, yn mynychu cyfarfod o’r Bwrdd heddiw ar gyfer trafodaethau am ei ddyfodol.

Mae disgwyl iddo ofyn am eglurhad o’r sefyllfa bresennol a gweld a yw’n dal i fod â chefnogaeth y perchennog Vincent Tan.

Daw’r datblygiad yma ar ôl i bennaeth recriwtio’r clwb a chyfaill agos i Mackay ers eu cyfnod gyda Watford, Iain Moody, gael ei ddiswyddo’r wythnos diwethaf.

Does dim esboniad wedi cael ei gynnig hyd yn hyn dros y diswyddiad, ond mae’r clwb wedi cadarnhau fod Alisher Apsalyamov, gŵr 23 oed o Kazakstan, wedi cymryd ei le dros dro.

Does gan Apsalyamov fawr o brofiad o gwbl mewn gweithio ym mhêl-droed, ond mae’n ymddangos ei fod yn ffrindiau da gyda mab Vincent Tan.

Chwaraeodd Moody ran pwysig yn arwyddo chwaraewyr megis Steven Caulker, Gary Medel a Frazier Campbell i’r clwb dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd y clwb mewn datganiad ddydd Gwener fod gan Tan “bob ffydd” yn Mackay ac y byddai’n parhau i’w gefnogi “am flynyddoedd i ddod”.

‘Angen eglurhad’

Ond dywedodd asiant Mackay, Raymond Sparkes, wrth WalesOnline fod angen eglurhad o’r sefyllfa yn y cyfarfod.

“Dyw Malky ddim am siarad gormod am ei hun ar hyn o bryd,” meddai Sparkes. “Ond mae’n ymwybodol fod nifer yn gofyn, ‘Beth yw sefyllfa bresennol y rheolwr?’

“Mae o’n gwybod fod pawb am iddo aros a dyna mae o am ei wneud, ond mae angen sicrwydd fod pethau am fod yn well yn y dyfodol.

“Dy ni’n gwybod fod ’na ambell berson yn y clwb sy’n amau ai Malky yw’r person gorau i arwain y clwb. Ond dy ni am wneud yn glir nad oes gan Malky fwriad o ymddiswyddo.”

Pwysleisiodd Sparkes hefyd fod Mackay ag ef am fod yn chwilio am ymddiheuriad oddi wrth y clwb am y datblygiadau’r wythnos diwethaf, a bod angen eglurhad i’r cefnogwyr hefyd.

Daeth yr wythnos gythryblus yma fel cryn dipyn o syndod i nifer o gefnogwyr Caerdydd, wedi i’r clwb gael dechrau digon parchus i’r tymor.

Maen nhw ar hyn o bryd yn 14eg yn yr Uwch Gynghrair gydag 8 pwynt yn eu 7 gêm agoriadol.