Methiant llwyr oedd ymgais y Gweilch yn eu gêm Cwpan Heineken gyntaf y tymor yma yn stadiwm Liberty neithiwr.
Tair cic gosb gan Dan Biggar oedd yr unig bwyntiau a lwyddodd y tîm cartref i’w hennill yn erbyn Leinster a oedd yn rhy gryf iddyn nhw.
Ar sail eu perfformiad neithiwr mae am fod yn dasg galed i’r Gweilch gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Heineken.
Seren y gêm oedd Sean O’Brien a sgoriodd unig gais Leinster, gyda’r maswr Jimmy Goppeth yn cipio’r gweddill o’u pwyntiau gyda chiciau cosb.
Dywedodd hyfforddwr cefnwyr yr Gweilch, Gruff Rees, ar ôl y gêm:
“Fe wnaethon ni benderfyniadau gwael. Doedden ni ddim yn dda o dan bwysau, yn wahanol iddyn nhw. Fe wnaethon nhw’r peth iawn ar yr adeg iawn.
“Fe gawson ni gyfle neu ddau lle gallen ni fod wedi troi’r byrddau arnyn nhw, ond wnaethon ni ddim edrych ar ôl y bêl.
“Mae’n rhaid inni wella.”