Rhys Priestland, a sgoriodd 18 pwynt dros y Scarlets heddiw
Mae’r Scarlets wedi curo’r Harlequins o 33 pwynt i 26 mewn gêm lawn cyffro yn Twickenham.
Gyda chais yr un gan Rhodri Williams, Scott Williams a Jordan Williams a 18 pwynt mewn ciciau gan Rhys Priestland, cafodd yr ymwelwyr fuddugoliaeth i’w chofio.
Fe fyddai’r Scarlets wedi ennill o lawer mwy oni bai am berfformiad Mike Brown, a sgoriodd ddau gais dros y Quins.
Roedd y Scarlets ar y blaen saith munud i mewn i’r gêm gyda chais gan Rhodri Williams, a gafodd ei drosi gan Priestland. Gyda dwy gic gosb yn fuan wedyn, roedd y sgôr yn 13-0.
Fe ddechreuodd y Quins ddal i fyny wedyn, gyda chic gosb i gychwyn, ac yn fuan wedi hanner awr i mewn i’r gêm, sgoriodd Brown ei gais cyntaf, a gafodd ei drosi gan Nick Easter.
Cais gwych
Fodd bynnag, gyda chais gwych gan Scott Williams, a throsiad gan Priestland, roedd yr ymwelwyr yn ôl 10 pwynt ar y blaen erbyn hanner amser.
Er i’r Quins geisio daro’n ôl yn gynnar yn yr ail hanner, gyda chic adlam gan Nick Evans, llwyddodd y Scarlets i ddal eu tir hyd yn oed ar ôl i Samson Lee gael ei anfon i’r cwrt cosbi.
Ar ôl i’r ddau dîm sgorio dwy gic gosb yr un, llwyddodd Jordan Williams i sgorio trydydd cais y Scarlets, a gafodd ei drosi unwaith eto gan Priestland.
Brown a sgoriodd gais olaf y gêm ond erbyn hynny roedd buddugoliaeth y Scarlets wedi’i selio.