Cafodd Dreigiau Casnewydd Gwent fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn Mogliano yn Rodney Parade neithiwr.

Dim ond un tîm oedd ynddi o’r dechrau wrth i’r ymwelwyr gael eu chwalu 31-3 erbyn hanner amser.

Gyda sgôr derfynol o 50-8 a phwynt bonws yng ngêm agoriadol Cwpan Amlin, mae’r Dreigiau’n barod bellach am gemau caletach yn erbyn Caerfaddon a Bordeaux-Begles yn eu grŵp.