Toby Faletau
Heno fe fydd y Dreigiau yn croesawu’r Scarlets i Rodney Parade am gêm ddarbi Gymreig gyntaf y tymor hwn yn y RaboDirect Pro12.
Fe fydd yr wythwr Toby Faletau yn dychwelyd i’r Dreigiau am y tro cyntaf y tymor hwn gan ymuno yn y rheng-ôl gyda Jevon Groves a Lewis Evans.
Hefyd bydd Tom Prydie yn dychwelyd i’r cae a’r ôl gwella o’r anaf i’w bigwrn a ddioddefodd yn erbyn Ulster. Bydd yna bartneriaeth newydd yng nghanol y cae oherwydd anaf i Pat Leach. Ross Wardle a Jack Dixon fydd yn rheoli’r canol.
Scarlets
Fe fydd yr Albanwr John Barclay yn chwarae i’r Scarlets am y tro cyntaf, gan ymuno gydag Aaron Shingler a’r Capten Rob McCusker yn y rheng-ôl. Wedi noson lwyddiannus yn erbyn Treviso, fe fydd Steven Shingler yn symud o safle’r canolwr i’r safle cefnwr.
“Mae gennym nifer o chwaraewyr talentog yn yr olwyr sydd yn gallu chwarae yn mwy nag un safle ar y cae,” meddai rheolwr y Scarlets, Simon Easterby.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda’r gwahanol gyfuniadau ar y cae ac yn gweld y rhai sy’n addas ar ein cyfer. Mi fydd hi’n gêm gorfforol ond rydym yn edrych ymlaen at yr her.’’
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Dan Evans, Tom Prydie, Ross Wardle, Jack Dixon, Hallam Amos, Jason Tovey a Richie Rees.
Blaenwyr – Phil Price, T.Rhys Thomas, Francisco Chaparro, Andrew Coombs (Capten), Matthew Screech, Jevon Groves, Lewis Evans a Toby Faletau.
Eilyddion – Hugh Gustafson, Owen Evans, Dan Way, Rob Sidoli, Netani Talei, Jonathan Evans, Kris Burton a Adam Hughes.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Steve Shingler, Liam Williams, Jon Davies, Scott Williams, Jordan Williams, Rhys Priestland a Gareth Davies.
Blaenwyr – Phil John, Ken Owens, Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Aaron Shingler, John Barclay a Rob McCusker (Capten).
Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Richard Kelly, Josh Turnbull, Aled Davies, Nic Reynolds a Gareth Owen.