Mae Allan Lewis prif hyfforddwr tîm rygbi dan 18 oed wedi cyflwyno rhai gwynebau newydd i’r tîm fydd yn wynebu De Affrica yfory.
Hon fydd y sialens olaf i’r tîm ar ôl cael buddugoliaeth dda yn erbyn Ffrainc a cholli yn y funud olaf i Loegr yn ystod y daith cyn belled.
Daw Luke Price i’r tîm fel maswr yn lle Angus O’Brien. Nid yw Torin Myhill na Tom Phillips ar gael oherwydd anafiadau Ryan Elias fydd yn dechrau fel bachwr a bydd Javan Sebastian yn disodli Alex Jeffreys fel prop.
Mae yna newidiadau yn y rheng-ôl gyda Jordan Collier fel blaenasgellwr agored, a bydd chwaraewr y Gweilch Jon Fox yn camu o’r fainc yn flaenasgellwr ochr dydwll a Oliver Hitchings fydd yr wythwr. Josh Help fydd yn arwain y tîm am y drydedd gêm yn olynol.
Yn y cefn bydd Ashton Hewitt yn awyddus i greu argraff fel sgoriwr ceisiau, Steff Evans a Josh Adams fydd y ddau arall yn y cefn. Carwyn Smith a Aled Sumerhill fydd y ddau ganolwr.
Yn ystod y gêm yn erbyn Lloegr, Dydd Mawrth, fe wnaeth bechgyn Cymru chwarae rygbi da iawn gyda Hewitt a Smith yn rhoi Cymru ar y blaen 15-10 ond yr eiliadau olaf fe sgoriodd Lloegr trosgais.
‘‘Yr oedd y canlyniad yn erbyn Lloegr yn siomedig, ond y peth pwysig yw ein bod wedi chwarae yn dda. Yr oeddem yn arbennig yn ystod y gêm wrth ymosod ac amddiffyn ac rwy;n gwybod bod Alan yn hapus iawn gyda perfformiad y bechgyn,’’ meddai Phil John, rheolwr y tîm.
Yr ydym yn edrych ymlaen at y gêm a gobeithio gorffen y daith gyda buddugoliaeth. Mae De Affrica wedi curo Lloegr a Ffrainc yn barod wrth chwarae adref ac fe fyddant yn llawn hyder ac yn brawf caled i ni. Yr ydym yn disgwyl gêm gorfforol ond os y gwnawn amddiffyn fel y gwnaethom yn erbyn Lloegr mae siawns da gennym i ennill,’’ ychwanegodd John.