Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud wrth Craig Bellamy y gallai golli bod yn rhan o hanes pêl-droed ei wlad os y bydd yn ymddeol ar ddiwedd ymgyrch bresennol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Dywedodd blaenwr 34 oed Caerdydd ei fod yn bwriadu ymddeol ar ddiwedd y gemau yn Grwp A.  Oherwydd y canlyniadau diweddar mae unrhyw obaith o gyrraedd y rowndiau terfynol wedi diflannu.

Ond mae Coleman yn credu y byddai diwedd cryf i’w ymgyrch yn eu rhoi mewn safle da ar gyfer gemau Pencampwriaeth Ewrop 2016.

‘‘Craig sy’n gwybod beth sydd orau iddo ac ef fydd yn gwneud y penderfyniad.  O gofio y gofal da mae’r chwaraewyr yn ei gael gan y tîm meddygol ac ati fe allai Craig chwarae am rai blynyddoedd eto.  Os y cawn ddiwedd cryf yn ein hymgyrch yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd, gallai hynny fod o help i ni pan ddaw’r enwau o’r het ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop 2016, a byddai’n drueni os na fyddai Craig yn rhan o’r peth ar ôl blynyddoedd o wasanaeth i’r tîm cenedlaethol,’’ meddai Coleman.

Capten yn cytuno

Mae Ashley Williams, capten Cymru, hefyd yn awyddus i weld Bellamy sy’n 34 oed, yn parhau i chwarae am rai blynyddoedd eto.

‘‘Byddwn yn hoffi ei weld yn chwarae am gyhyd ac sydd yn bosibl gan ei fod yn chwaraewr mor dda, ac yn berson arbennig i fod yn rhan o’r garfan.  Os y cawn ddiwedd cryf i’n hymgyrch efallai y bydd yn teimlo’n wahanol am bethau wedyn,’’ meddai amddiffynnwr Abertawe a Chymru.