Bydd clwb pêl-droed Caerdydd yn chwarae ei gêm gyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Lloegr yfory, a hynny oddi cartref yn erbyn West Ham yn Upton Park, Llundain.
Er mwyn ceisio aros yn yr Uwch Gynghrair mae Caerdydd wedi gorfod gwario yn sylweddol i gryfhau’r garfan.
Mae’n debyg bod Andreas Cornelius, Steven Caulker a Gary Medel wedi costio dros £26 miliwn i’r clwb. Hefyd prynwyd John Brayford o Derby County a Simon Moore o Brentford.
Ennillodd y tîm dair o’u pum gêm wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd.l
Mae Bo-Kyung wedi creu argraff dda gan sgorio yn nhair o’r gemau, ac mae’r chwaraewr profiadol Craig Bellamy wedi bod yn ddylanwadol iawn.
Mae’r amddiffynnwr Andrew Taylor wedi ei wahardd rhag chwarae yfory ac mae amheuon a fydd anaf i bigwrn Cornelius wedi gwella.